Mae Datrys wedi’i gomisiynu i ddarparu’r cynllun peirianneg sifil ar gyfer gorsaf gynhyrchu trydan hydro gymunedol leol. Mae Hydro Ogwen yn fenter gydweithredol i harneisio grym Afon Ogwen yng Ngwynedd. Parhau i ddarllen => Cynllun Hydro Cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru
Mae Bryn Seiont Newydd wedi cael ei enwi yn y cartref gofal gorau yn y DU. Wedi’i agor fis Tachwedd diwethaf ar gyrion Caernarfon, derbyniodd Bryn Seiont Newydd y brif wobr yn y prif gategori yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016. Parhau i ddarllen => Prif Wobr i Gartref Gofal Caernarfon
Yn ddiweddar, dathlodd swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug flwyddyn ers iddi agor ei drysau, a deuddeg mis yn ddiweddarach mae’r gangen yn ffynnu. Pennaeth y swyddfa yw Warren Lewis, Cyfarwyddwr Datrys, ac yn gweithio gydag ef mae’r Technegydd Peirianneg Graddedig newydd, Sandra Pousadas. Mae staff contract hefyd wedi cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn i gwrdd â’r galw. Parhau i ddarllen => Swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug – Blwyddyn yn Ddiweddarach
Mae Datrys wedi cael ei gyflogi i gynnal dyluniad a rheoli prosiect cynllun Hydro Langwell yn Ullapool yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae’r cynllun £4.25 miliwn, dan berchnogaeth Canaird River Company Ltd, yn cynnwys argae, mewnlif ochrol, pibell 3km o hyd a 1000mm diamedr, pwerdy ac arllwysfa. Parhau i ddarllen => Cynllun Hydro Mawr yn Ucheldiroedd yr Alban
Mae Datrys yn parhau gyda’i nod i dyfu a chryfhau ei dalentau gyda chyrhaeddiad pedwar aelod newydd o staff. Mae Jonathan Allen yn Beiriannydd Sifil Graddedig o Brifysgol Abertawe. Bydd wedi’i leoli yn ein pencadlys yng Nghaernarfon a bydd yn atgyfnerthu’r tîm presennol o beirianwyr. Parhau i ddarllen => Datrys yn Recriwtio 4 Aelod Staff Newydd
Mae Datrys yn falch o gyhoeddi newidiadau i’w strwythur rheoli.Mae Josh Smart, a ymunodd â ni yn ddiweddar ar ôl rheoli prosiectau mawr yn Queensland, Awstralia, wedi cael ei ddyrchafu i Gyfarwyddwr y swyddfa yng Nghaernarfon. Parhau i ddarllen => Newidiadau Rheolaeth yn Datrys
Mae Datrys yn falch iawn i groesawu tri aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon. Mae Josh Smart yn ymuno â ni ar ôl rheoli prosiectau mawr yn Queensland, Awstralia. Bydd Josh yn cymryd rôl arweiniol yng ngallu cynyddol Datrys yn y sectorau Hydro a Gofal Ychwanegol. Parhau i ddarllen => Datrys yn recriwtio 3 aelod o staff newydd
Mae Datrys yn falch i gyhoeddi agoriad swyddfa newydd yn Yr Wyddgrug.Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Fusnes St Andrews, bydd y swyddfa newydd yn rhoi presenoldeb ehangach ar draws Gogledd Cymru i gwmni Datrys ac yn galluogi mynediad hawdd yn ôl a blaen i Gaer, Lerpwl, Manceinion a thu hwnt. Parhau i ddarllen => Datrys yn agor Swyddfa Newydd yn Yr Wyddgrug
Mae Datrys wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Dinas Bangor ar adfer Pier y Garth, Bangor. Mae adfer y Pier, sydd â hyd o bron i 0.5km ac a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1896, yn cael ei weld fel catalydd i gynnal bywiogrwydd y rhan hon o Fangor, sydd â golygfa drawiadol tuag at Afon Menai a’r Gogarth. Parhau i ddarllen => Archwiliad o Bier Bangor
Mae Datrys wedi cael ei benodi fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol ar gyfer cynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd gan Hufenfa De Arfon. Bydd y prosiect yn ehangu cyfleusterau cynhyrchu caws Hufenfa De Arfon ac yn cynnwys troi rhan o’r storfa gaws presennol yn ardal gynhyrchu. Parhau i ddarllen => Prosiect Hufenfa Mawr