Datrys yn recriwtio 3 aelod o staff newydd
Mae Datrys yn falch iawn i groesawu tri aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon. Mae Josh Smart yn ymuno â ni ar ôl rheoli prosiectau mawr yn Queensland, Awstralia. Bydd Josh yn cymryd rôl arweiniol yng ngallu cynyddol Datrys yn y sectorau Hydro a Gofal Ychwanegol.
Mae Giovanni Lunardi yn Beiriannydd Graddedig o Brifysgol Padua, yr Eidal. Ef fydd yn arwain y gwaith o weithredu BIM yn Datrys.
Mae Ann Mason yn cyrraedd o Gyngor Ewrop yn Strasbwrg, Ffrainc a bydd hi’n helpu i ddatblygu strategaeth farchnata Datrys.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Paul Williams: “Rydym yn argyhoeddedig y bydd dyfodiad yr aelodau newydd o staff yn galluogi i Datrys barhau i ddarparu gwasanaeth hyd yn oed yn fwy effeithiol a gwell i’n cleientiaid.”
“Mae cymaint o amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiad yn cysylltu’n berffaith â’n hamcanion i wella ein galluoedd ac i dyfu’r cwmni, gan ein galluogi i gyfuno agwedd fyd-eang gyda darpariaeth leol.”