Newidiadau Rheolaeth yn Datrys

Mae Datrys yn falch o gyhoeddi newidiadau i’w strwythur rheoli.Mae Josh Smart, a ymunodd â ni yn ddiweddar ar ôl rheoli prosiectau mawr yn Queensland, Awstralia, wedi cael ei ddyrchafu i Gyfarwyddwr y swyddfa yng Nghaernarfon.

Bydd Josh nid yn unig yn sicrhau bod prosiectau o ddydd i ddydd a materion gweinyddu cyffredinol yn rhedeg yn esmwyth yng Nghaernarfon, ond bydd ef hefyd yn helpu i fentora’r tîm o beirianwyr sydd wedi’u lleoli yn y swyddfa hon.

Bydd Warren Lewis, Cyfarwyddwr arall Datrys yn parhau i dyfu a datblygu’r swyddfa yn Y Wyddgrug.

Esboniodd Paul Williams, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae’r strwythur newydd yn dod â mwy o gydbwysedd a sefydlogrwydd i reolaeth y cwmni, ac yn rhoi gwell momentwm i ni yrru’r busnes yn ei flaen.”

“Rydym yn argyhoeddedig y bydd ein tîm rheoli newydd yn fuddiol nid yn unig i’n cydweithwyr, ond hefyd i’n cleientiaid drwy brosesau a gwasanaethau gynyddol effeithlon ac effeithiol.”

Wedi’i ddiweddaru ar 4 Medi, 2015

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE