Recriwtio

Mae Datrys yn gwmni cyfeillgar, blaengar, ac sydd wedi hen ennill ei blwyf ac mae ganddo swyddfeydd yng Nghaernarfon ac yn Yr Wyddgrug. Rydym yn fusnes annibynnol ac sy’n tyfu, gydag arbenigedd ym meysydd gwasanaethau ymgynghori peirianneg sifil, strwythurol a geo-dechnegol, ac mae gennym ymrwymiad diffuant i ddatblygiad proffesiynol a rhagolygon gyrfa’n staff.

Rydym yn cynnig:

  • Llwyth gwaith diddorol ac amrywiol
  • Tîm cefnogol a chyfeillgar i weithio ag ef
  • Prosiectau llawn heriau technegol
  • Cymorth tuag at ennill Siarteriaeth (yn cynnwys talu ffioedd aelodaeth broffesiynol).

Yn unol â’n cynlluniau twf busnes, mae gennym raglen recriwtio wedi’i chynllunio ac mae gennym bob amser ddiddordeb mewn clywed gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni.

I ddod yn rhan o’n tîm sy’n ehangu, neu i gael sgwrs am gyfleoedd posibl i gael gyrfa, cwblhewch yr Hysbysiad Preifatrwydd i Ymgeiswyr am Swydd ac anfonwch eich CV at p.williams@datrys.coop

I gael mwy o wybodaeth, a fyddech cystal â lawrlwytho’n Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr Datrys (28.02.24)

 


DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE