Uwch-beiriannydd Sifil (Siartredig/lled Siartredig)
Uwch-beiriannydd Sifil –– (Scartredig/Bron Siartredig)
Lleoliad
Gogledd Cymru – Yr Wyddgrug neu Gaernarfon (gall trefniadau gweithio hybrid neu ran amser fod ar gael.)
Contract
Parhaol
Cyflog
Yn yr ystod £40,000 – 50,000, yn dibynnu ar brofiad
Working hours
Llawn amser, 37.5 awr yr wythnos
Ynglŷn â Datrys
Mae Datrys yn gwmni cyfeillgar, blaengar sydd â’i fryd ar y dyfodol a chanddo swyddfeydd yng Nghaernarfon a’r Wyddgrug. Rydym yn fusnes annibynnol sydd wedi ennill ei blwyf ac sy’n tyfu, gydag arbenigedd ym meysydd gwasanaethau ymgynghori mewn peirianneg sifil, strwythurol a geo-dechnegol. Mae gan Datrys achrediadau ISO 9001 ac 14001.
I gynnal ein llwyth gwaith cynyddol, hoffem benodi Uwch-Beiriannydd Sifil brwdfrydig ac uchel ei gymhelliad i weithio naill ai yn ein swyddfa yn Yr Wyddgrug neu yn ein swyddfa yng Nghaernarfon (gyda chwmpas i rywfaint o weithio o bell), i gyfrannu tuag at gyflawni targedau twf ein Cynllun Busnes.
Dyma gyfle gwych i Beiriannydd Sifil (eisoes neu bron yn Siartredig) gyda phrofiad perthnasol (o leiaf 5 mlynedd o weithio ar ôl graddio mewn amgylchedd gwasanaeth ymgynghori peirianyddol) i fynd â’u gyrfa i’r cam nesaf, i ddechrau ar reolaeth fasnachol o brosiectau, ac i adeiladu’n tîm Sifil.
Y Rôl
Fel Uwch-Beiriannydd, fe fyddwch yn siartredig/bron yn siartredig. Mae hon yn rôl ymarferol i fod yn gyfrifol am gynnal prosiect o’r dechrau i’r diwedd. Mae cymryd cyfrifoldeb i’w gymryd yn ganiataol, ac fe fyddwch yn gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau ac yn darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol i’n cleientiaid.
Bydd gennych hefyd gyfleoedd am ragor o gyfrifoldeb ar yr ochr fasnachol a marchnata o’r busnes, yn ogystal â rheoli cleientiaid a staff. Fe fyddwch yn derbyn cymorth a chymorth datblygu parhaus mewn rheoli a thechnoleg, a thrwy hynny’n gwneud gwir gyfraniad tuag at ddatblygu’r busnes.
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys:
- Rheoli prosiectau i gynnwys paratoi dyfynbrisiau, anfonebu a chyfrifoldeb am lwyddiant masnachol prosiectau.
- Cyfathrebu’n uniongyrchol â chleientiaid, cynhyrchu busnes, paratoi cynigion, datblygu cyfarwyddiadau cleientiaid a mynychu cyfarfodydd prosiectau.
- Mentora, datblygu a rheoli staff.
- Rheoli cynhyrchu dogfennau technegol gan aelodau eraill o’r tîm.
- Dilysu cyfrifiadau a lluniadau dyluniadau a wnaed gan beirianwyr a thechnegwyr eraill.
- Cynhyrchu adroddiadau technegol cryno yn unol â disgwyliadau cwsmeriaid.
- Ymweliadau â safleoedd i gynrychioli’r cwmni ac i gynnal ymchwiliadau ac i fonitro adeiladu.
- Datblygu dyluniadau a manylion peirianyddol yn unol â chyfarwyddiadau prosiectau.
- Paratoi cyfrifiadau, adroddiadau ysgrifenedig a manylebau.
Bydd gennych:
- Gradd/MEng mewn Peirianneg Sifil neu faes cysylltiedig.
- Rhagoriaeth o ran dylunio technegol a dealltwriaeth fanwl o brosesau cymeradwyo perthnasol ar gyfer dylunio/mabwysiadu priffyrdd a draenio, yn cynnwys SuDS.
- Gwybodaeth hollol ddiweddar am Safonau Dylunio, Rheoliadau Adeiladu, Iechyd a Diogelwch a Chydsyniadau Statudol.
- Byddai profiad o ddefnyddio AutoCAD a Civils 3-D yn fanteisiol.
- O leiaf pum mlynedd o brofiad o weithio mewn gwasanaeth ymgynghori peirianyddol yn y Deyrnas Unedig.
- Mae profiad o CESMM ac NEC yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog i gysylltu â chleientiaid, aelodau eraill o’r tîm, ac i gynhyrchu adroddiadau cryno, wedi’u hysgrifennu’n dda.
- Profiad o reoli a mentora tîm o beirianwyr a thechnegwyr neu ddiddordeb cryf mewn datblygu yn y maes hwn.
Mae’n rhaid ichi fod ar hyn o bryd yn breswylydd ac yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn meddu ar drwydded yrru Brydeinig lawn.
Ymddygiadau
- Wedi paratoi a bod yn drefnus yn eich ymagwedd tuag at waith a chwblhau gorchwylion erbyn terfynau amser.
- Brwdfrydedd dros yrfa mewn adeiladu.
- Dangos ymagwedd greadigol tuag at ddatrys problemau.
- Y ddawn i weithio ar eich menter eich hun a bod yn rhagweithiol.
- Bod yn hyblyg i anghenion y busnes, ac i ofynion newidiol cleientiaid.
- Ymrwymiad i weithio’n gydweithredol ac i gyfrannu’n weithredol fel aelod o dîm dylunio.
Yn dâl, cynigiwn y canlynol:
- Cyflog cystadleuol.
- Gwyliau – sy’n dechrau ar 25 diwrnod, yn ogystal â Gwyliau’r Banc.
- Cynllun Pensiwn.
- Llwyth gwaith diddorol ac amrywiol.
- Tîm cefnogol a chyfeillgar.
- Prosiectau sy’n dechnegol heriol fydd yn ymestyn ac yn herio’ch sgiliau.
- Cyfleoedd sylweddol i ddatblygu a gweithredu sgiliau masnachol, marchnata a rheoli.
- Gall pecyn adleoli fod ar gael.
- Telir ffioedd aelodaeth broffesiynol gan y Cwmni.
- Parcio Car Am Ddim.
Mae Datrys yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau oddi wrth bob rhan o’r gymuned.
Sut i Ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, anfonwch eich CV, os gwelwch yn dda, ynghyd â llythyr eglurhaol yn dweud wrthym am eich cefndir, pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl a’r hyn fydd gennych i’w gyfrannu tuag at Datrys, drwy e-bost at info@datrys.coop. Mae rhagor o wybodaeth am Datrys ar gael ar ein gwefan: www.datrys.net