Technegydd Strwythurol CAD (Profiadol/Uwch)

Technegydd Strwythurol CAD (Profiadol/Uwch)

Lleoliad
Gogledd Cymru (Yr Wyddgrug neu Gaernarfon)
Gall patrymau gweithio hybrid neu weithio rhan amser fod ar gael.

Contract
Parhaol

Cyflog
Yn yr ystod £25,000 – 40,000, yn dibynnu ar brofiad

Oriau gwaith
Amser llawn 37.5 awr yr wythnos

Ynglŷn â Datrys

Mae Datrys yn gwmni cyfeillgar, blaengar sydd â’i fryd ar y dyfodol a chanddo swyddfeydd yng Nghaernarfon a’r Wyddgrug. Rydym yn fusnes annibynnol sydd wedi ennill ei blwyf ac sy’n tyfu, gydag arbenigedd ym meysydd gwasanaethau ymgynghori mewn peirianneg sifil, strwythurol a geo-dechnegol. Mae gan Datrys achrediadau ISO 9001 ac 14001.

Chwiliwn am yr unigolyn iawn i adeiladu ar ei (g)wybodaeth bresennol am waith peirianneg strwythurol mewn AutoCAD a Revit i ddarparu cyfraniad technegol allweddol tuag at ein timau dylunio.

Dyma gyfle gwych i Dechnegydd Strwythurol Profiadol/Uwch weithio ar ystod amrywiol o brosiectau a darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol i’n cleientiaid, a chyfrannu tuag at gyflawni’n Cynllun Busnes.

Datrys yw’r cwmni o faint perffaith i wneud cynnydd yn gyflym. Mae gennym lwybrau Datblygiad Proffesiynol Parhaus strwythuredig ar waith, a chynigiwn hyfforddiant a mentora parhaus ymarferol ardderchog gyda chyfleoedd sylweddol i ddatblygu gyrfa. Fe’ch anogir i weithio tuag at ennill cymhwyster proffesiynol, gan ddal i reoli a chymell eich gyrfa’ch hun.

Y Rôl

Fe fyddwch yn gweithio fel rhan o dîm dylunio, yn cyflenwi dyluniadau manwl ac yn darparu gwybodaeth a chymorth technegol peirianyddol ar gyfer prosiectau.

Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys:

  • Datblygu dyluniadau a manylion peirianyddol yn unol â chyfarwyddiadau prosiectau.
  • Paratoi modelau a lluniadau, a rheoli a gwirio’r rheiny a baratowyd gan aelodau’r tîm.
  • Cysylltu ag aelodau o’r tîm dylunio allanol, cleientiaid, contractwyr ac eraill sy’n drydydd parti.
  • Cynnal archwiliadau o safleoedd a pharatoi adroddiadau i gofnodi arsylwadau.
  • Mentora a datblygu Technegwyr a Pheirianwyr Graddedig.
  • Datblygu gallu BIM y Cwmni a defnyddio Revit.
  • Cynrychioli’r Cwmni a gweithredu fel Rheolwr Prosiect ar brosiectau penodol.

Gofynion y Person

Anogwn ein staff i ddangos angerdd dros ddylunio, egni a chymhelliad, diddordeb a pharodrwydd i ddysgu, a dymuniad i gyflenwi gwasanaeth ardderchog yn effeithiol i’n cleientiaid. Fe fyddwch yn aelod tîm proffesiynol a chyfeillgar sy’n awyddus i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at yr amgylchedd gwaith. Fel aelod allweddol o’r tîm, fe fyddwch yn llawn cymhelliant ac yn alluog i arwain/gynorthwyo aelodau eraill o’r tîm.

Y chi:

  • Bydd gennych HNC/cymhwyster cyfwerth mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig/Peirianneg Sifil.
  • Bydd gennych o leiaf tair blynedd o brofiad fel Technegydd Strwythurol.
  • Bydd gennych sgiliau CAD cryf (rhai ohonynt hyd at y fersiwn AutoCAD diweddaraf).
  • Mae’n rhaid ichi fod ar hyn o bryd yn breswylydd ac yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn meddu ar drwydded yrru Brydeinig lawn.

Sgiliau

  • Sgiliau rhifedd cryf.
  • Sgiliau rhyngbersonol da.
  • Meddu ar wybodaeth weithio gref am Microsoft Office, yn enwedig Excel.
  • Y gallu i ddefnyddio Civils 3D a Revit; ar gyfer y rôl Uwch, fe ddisgwylir ichi gynorthwyo i gyflwyno Revit fesul cam ledled y Cwmni.
  • Sgiliau cyfathrebu eglur a phroffesiynol.
  • Deall anghenion cleientiaid.
  • Rhoi sylw trylwyr i fanylion.
  • Medrus wrth ddysgu a defnyddio meddalwedd newydd.

Ymddygiadau

  • Wedi paratoi a bod yn drefnus yn eich ymagwedd tuag at waith a chwblhau gorchwylion erbyn terfynau amser.
  • Cyflym a hynod drefnus.
  • Rhoi sylw agos i fanylion.
  • Yn gallu gweithio o dan bwysau wrth gwblhau gwaith i derfynnau amser.
  • Brwdfrydedd dros yrfa mewn adeiladu.
  • Y ddawn i weithio ar eich menter eich hun a bod yn rhagweithiol.
  • Bod yn hyblyg i anghenion y busnes, ac i ofynion newidiol cleientiaid.
  • Ymrwymiad i weithio’n gydweithredol ac i gyfrannu’n weithredol fel aelod o dîm.

Yn dâl, cynigiwn y canlynol:

  • Cyflog cystadleuol.
  • Gwyliau – sy’n dechrau ar 25 diwrnod, yn ogystal â Gwyliau’r Banc.
  • Cynllun Pensiwn.
  • Llwyth gwaith diddorol ac amrywiol.
  • Tîm cefnogol a chyfeillgar.
  • Prosiectau sy’n dechnegol heriol fydd yn ymestyn ac yn herio’ch sgiliau.
  • Telir ffioedd aelodaeth broffesiynol gan y Cwmni, ac fe’ch anogir i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddi ICE y cwmni.
  • Gall pecyn adleoli fod ar gael.
  • Cyfleoedd i hyfforddi a datblygu.
  • Parcio car am ddim.

Mae Datrys yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau oddi wrth bob rhan o’r gymuned.

Sut i ymgeisio

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, anfonwch eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol atom, os gwelwch yn dda, yn dweud wrthym am eich cefndir, pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl a’r hyn y byddwch yn ei gyfrannu tuag at Datrys, drwy e-bost at info@datrys.coop. Mae rhagor o wybodaeth am Datrys ar gael ar ein gwefan: https://www.datrys.net/

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE