Gwasanaethau
Yn Datrys, rydym yn ymfalchïo yn yr amrywiaeth o wasanaethau rydym yn eu cynnig i chi: o gyngor peirianneg a datrys problemau i arolygon dichonoldeb, cael caniatâd a mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch.
Mae gan ein Peirianwyr Strwythurol a Sifil gyfoeth o brofiad yn ymestyn i ystod eang o feysydd gan gynnwys diwydiannol, preswyl, gorsafoedd pŵer, adeiladau masnachol a thrin carthion a dŵr.
Rydym yn cyd-weithio’n agos â chi drwy gydol oes eich prosiect: o’r camau cynharaf hyd at gwblhau; o ddatblygu ac adeiladu prosiectau i ddyluniad manwl a rheoli prosiect llawn; o arolygon ac ymchwiliadau i adeiladu.
Mae eich prosiect yn ddiogel yn ein dwylo. Cysylltwch â ni nawr.