Modelu
Mae Datrys yn cynnig Modelu Gwybodaeth Adeilad (BIM), Revit Structure a Civils 3D. Mae BIM yn broses o reoli’r defnydd o fodelau adeiladu 3D digidol i hwyluso cydweithio yn y broses ddylunio. Efallai y bydd y model yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddiffinio dyluniad y prosiect.
Ynghyd â’n meddalwedd CAD gyfredol, mae’r defnydd o BIM yn fuddiol yn ystod y camau dylunio ac adeiladu, i wella ansawdd, gostwng costau a lleihau amserlenni.
Gall BIM hefyd sicrhau cyfathrebu gwell a mwy effeithiol ynghylch manylder ac ansawdd adeiladau rhwng dylunwyr, gweithwyr adeiladu, penseiri, ac ati.
Gellir ei ddefnyddio hefyd i wneud dadansoddiadau ar elfennau pwysig megis goleuo dydd ac amcangyfrifon thermol, strwythurol a chost ar adegau allweddol yn y broses dylunio ac adeiladu.