Dŵr a Draeniad
Ewch i weld ein prosiectau dŵr a draeniad yn nawr.
Mae ymchwiliadau perygl llifogydd a dylunio draeniad da wedi dod yn rheidrwydd dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd cynnydd yn y risg o lifogydd ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Ar ben hynny, mae diwygiadau i’r Ddeddf Diwydiannau Dŵr wedi galw am newidiadau i ddyluniad draeniad mabwysiadwy a’r gweithdrefnau ar gyfer ei fabwysiadu.
Mae Datrys wedi sicrhau bod ein peirianwyr yn gallu cwrdd â’r anghenion hyn.
Felly, rydym yn gweithio’n agos â Dŵr Cymru i symleiddio’r broses o ddylunio a mabwysiadu draeniad.
Rydym hefyd yn gyfarwydd â gofynion diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag asesu perygl llifogydd i TAN 15.
Rydym yn gwneud modelu llifogydd un dimensiwn a dau ddimensiwn.
Yn ogystal, rydym yn gwneud defnydd eang o SuDS wrth ddylunio systemau draenio dŵr storm i leihau arllwysiad oddi ar y safle.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Dylunio draeniad dŵr storm gan ddefnyddio SuDS
- Dylunio draeniad dŵr budr a dŵr wyneb i garthfosydd eu mabwysiadu
- Asesiadau Canlyniadau Llifogydd i TAN 15
- Modelu llifogydd gan ddefnyddio FEHB, modelu 1 a 2 dimensiwn, gan gynnwys toriadau