Dowch i Adnabod y Tîm

Yn Datrys, mae ein tîm yn cynnig cyfuniad amhrisiadwy o arbenigwyr profiadol ond agos-atoch sydd wedi bod yma drwy gydol twf y cwmni, yn ogystal â pheirianwyr mwy newydd, egnïol a brwdfrydig sy’n cynnig safbwynt adfywiol a chyfredol.

Ac yntau’n sefydliad heb fod yn fawr, mae yna ddigon o gyfle yma i ddatblygu, i gael arweiniad un i un ac i fynd i’r afael â phob elfen o brosiect – buddion na fyddent efallai ar gael mor rhwydd o fewn sefydliad mwy o faint.

Er ein bod yn dîm bychan, clos, rydym wedi magu enw da am arwain ar brosiectau sylweddol, ac mae ein persbectif cyffredinol yn bendant yn adlewyrchu hyn. Rydym ni oll wedi cymryd llwybr gwahanol i a thrwy Datrys – dyma pwy ydym:

Paul

Mae’r Peiriannydd Sifil Siartredig a’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Paul, yn dod ag ehangder profiad mewn peirianneg sifil a strwythurol a chefnogaeth i dîm Datrys. Dechreuodd Paul ar ei yrfa yn gweithio ar strwythurau adeiladau, yn cynnwys y Stadiwm Cenedlaethol, Caerdydd. Roedd blynyddoedd a dreuliodd ag MRM (Parsons Brinckerhoff yn awr) yn cynnwys gwaith ar ragfynegi llifogydd a modelu afonydd a chynllunio ffyrdd a draeniau, lle roedd yn gyfrifol am yr adran cynllunio peirianneg sifil yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Fel

Cyfarwyddwr Technegol gyda Thorburn (URS), fe ddaeth Paul yn gysylltiedig iawn â llunio stadia, yn cynnwys eisteddleoedd ar gyfer timau pêl-droed Swindon Town, Plymouth Argyle a Dinas Caerlŷr (Leicester City). Ar ôl 7 mlynedd fel Rheolwr Rhanbarthol swyddfa’r Royal Haskoning yng Ngogledd Cymru, fe gymerodd ran dyngedfennol mewn sefydlu Datrys drwy gynllun a welodd y rheolwyr yn prynu’r busnes yn 2002.

Mae’i bwyslais cryf ar ansawdd dylunio wedi sicrhau twf parhaus y cwmni a’i enw da ers iddo gael ei sefydlu.

Adam C

Graddiodd y Peiriannydd Sifil, Adam, o Brifysgol Queen’s, Belfast, ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gysylltiedig â phob agwedd o brosiectau allweddol Datrys, o ddylunio a chaffael i oruchwylio a rheoli prosiectau.

Fe arweiniodd ar waith dylunio a rheoli Datrys ym mhrosiect hydro helaeth Langwell yn yr Alban.

Roedd goruchwylio holl agweddau strwythurol a pheirianneg sifil Bryn Seiont Newydd, sef uned Cartref Gofal wyth uned â 71 ystafell wely sydd wedi ennill gwobr, yn neilltuol o werth chweil, gan fod staff yn cael lefel aruthrol fawr o gyfrifoldeb gan Datrys, uwchlaw a thu hwnt i’r hyblygrwydd a roddir fel arfer mewn gwasanaethau ymgynghori sy’n fwy o faint.

Daeth Adam yn gyfarwyddwr Datrys ym mis Rhagfyr, 2017. Mae’n gweithio tuag at gyflawni statws siartredig yn y deuddeng mis nesaf.

Adam V

Ymunodd y Technegydd Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Adam Vale, â Datrys yn ystod haf 2018 ac mae’n mwynhau dylunio â’r feddalwedd hon, yn ogystal â’r amrywiol brofiad ar safleoedd sydd ar gael. Mae’i brofiad ar safleoedd gyda chontractwr a chwmni Peirianneg Sifil wedi darparu cefndir gwych iddo ar gyfer gweithio ar brosiectau cyfredol, yn cynnwys datblygiad tai o 38 eiddo yn Llanbedr Dyffryn Clwyd ac yn Stad Ddiwydiannol Cibyn, sydd o faint gweddol fawr, yng Nghaernarfon.

Alicia

Croesawyd Alicia yn gychwynnol i Datrys ar leoliad tri mis yn ystod ei Gradd Meistri amser llawn mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Bron i naw mis yn ddiweddarach, fe ddewisodd barhau â’i hastudiaethau’n rhan amser tra ei bod yn gweithio â Datrys bedwar diwrnod yr wythnos.

Mae Alicia yn mwynhau’r cymorth tîm yn Datrys ac mae wedi bod yn gysylltiedig ag amrywiol gytundebau Adran 278 a datblygiadau tai bychain ar gyfer awdurdodau tai lleol.

Christian

Mae Christian, sy’n Uwch-Beiriannydd Technegol profiadol, wedi bod yn Datrys er 2002 ac mae amrywiaeth ei waith wedi cynnwys cyfres o arolygon diweddar a gafodd gyhoeddusrwydd ynglŷn â Phier Bae Colwyn, a chynghori ar adeiladu atyniad twristiaid Zipworld, sydd wedi ennill gwobr, y weiren wib hwyaf yn Ewrop. Roedd Christian yn allweddol wrth ddylunio’r cynllun fflatiau gofal ychwanegol 40 uned newydd gwerth £8.5 miliwn yn Hafod y Gest ym Mhorthmadog.

Gwnaeth hefyd gynnal arolwg o drac beicio mynyddoedd ‘Hardline’ Red Bull ac fe baratôdd luniadau cynllunio ar gyfer eu cymeradwyo o bob nodwedd y cwrs. Fe ddaw, gobeithio, yn drac cystadlu parhaol yn Ninas Mawddwy, Canolbarth Cymru, a ddisgrifir yn awr fel y cwrs i lawr mynydd caletaf yn y byd.

Golygai’r gwaith dreulio diwrnod yn ymlwybro i lawr ochr 700 metr o uchder, yn cynnal arolygon mesur o holl nodweddion y cwrs, yn cynnwys neidiau enfawr, ponciau llamu a glaniadau. Mae Red Bull yn gobeithio y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn caniatáu i’r rhain fod yn nodweddion parhaol.

Gareth P

Graddiodd Gareth â BEng mewn Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi bod gyda Datrys er 2015 ac mae’n mwynhau ystod eang o waith y mae’n gallu cymryd rhan ynddo, o fodelu llifogydd a gweithio ar Bier Bae Colwyn i gyfrannu at ddatblygiad gofal ychwanegol Hafod y Gest gyda Grŵp Cynefin.

Mwynhaodd Gareth 3 mis o gyfnod sabothol yn 2016, a ganiataodd iddo gael y cyfle i deithio drwy Dde-ddwyrain Asia.

Gareth T

Mae Gareth Taylor, Peiriannydd Prosiectau a leolir yn yr Wyddgrug, yn rheoli prosiectau, yn mentora graddedigion ac mae ganddo brofiad enfawr o Eurocodau, a ddaw â budd i’r tîm ehangach.

Mae prosiectau diweddar wedi amrywio o chwalu a thrawsnewid Cartref Gofal Llys Awelon i ddylunio Spunhill – uned adwerthu ffrâm gleddog â dur wedi’i rowlio’n boeth unllawr. Mae ganddo ddigonedd o brofiad yn y sector preswyl, ac yn ystod pedair blynedd yn swyddfa Caer Ramboll, y cwmni peirianyddol ymgynghorol o Ddenmarc, fe ddyluniodd lawer o strwythurau concrid uchel, yn cynnwys dadansoddi seismig yn Gibraltar, Cyprus, Nepal a Mongolia a chomisiynau’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn fyd-eang.

Gweithiodd Gareth ar adfer Pyrth Euraid Warrington, a wnaeth yn ddiweddar ennill Gwobr Ymddiriedolaeth Ddinesig, ac mae’n mwynhau arwain prosiect o’i ddechreuad i’w ganlyniadau, a gwirioneddol gyflawni gofynion cleientiaid. Mae’n gwerthfawrogi cyfraniad Datrys tuag at yr economi lleol a chymuned gynaliadwy.

Gina

Mae Gina yn goruchwylio gweithgareddau gweinyddol Datrys ac fe ymunodd yn syth o’r ysgol yn 2015. Cydnabuwyd ei galluoedd yn bur gynnar ac fe roddwyd cyfrifoldeb yn gynnar iddi â chefnogaeth. Mae Gina ers hynny wedi bod yn datblygu’i sgiliau â chyfrifon, yn ogystal â chwblhau NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, ac mae’n mwynhau’r amrywiaeth sydd yna yn ei rôl yn y swyddfa, yn ogystal â bod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog.

Jac

Graddiodd Jac Gruffydd â Gradd BSc mewn Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol o Brifysgol Lerpwl, ac fe ymunodd â Datrys ar leoliad gwaith ar ddechrau 2018, cyn iddo gael rôl barhaol fel Peiriannydd Graddedig ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Mae’n mwynhau’r ystod eang o waith y mae’n gallu cymryd rhan ynddo, o asesiadau Canlyniadau Llifogydd i ddylunio strwythurol. Cyfrannodd yn ddiweddar tuag at ddylunio bloc o fflatiau tri llawr yn strwythurol ar hen safle Gwesty Edelweiss gynt ym Mae Colwyn.

Mae Jac wrthi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Gradd Meistri mewn Peirianneg Sifil drwy ddysgu o bell ym Mhrifysgol Heriot Watt, i hyrwyddo’i ddatblygiad tuag at ennill statws Siarteriaeth.

Jacob

Fe ymunodd y Technegydd Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) dan hyfforddiant, Jacob, â Datrys yn syth ar ôl cwblhau’i gymhwyster Adeiladu Proffesiynol Lefel 3 yn y coleg.

Mae ar hyn o bryd yn mwynhau gweithio ar ystâd fawr yng Nghricieth ac ar brosiect sydd ar raddfa lai ym Morfa Nefyn, yn ogystal â chyfleuster gofal Llys Awelon yn Rhuthun. Mae gan luniau o ddraeniau, cyfrifiadau a manylion ran fawr yn ei waith wrth iddo weithio tuag at ennill ei HNC.

Mae’n gwerthfawrogi’r cymorth a gynigir gan dîm Datrys a’r technegau a’u dulliau gweithredu hynod gyfoes sydd ar waith yma.

Jonathan

Mae Jonathan yn Beiriannydd Sifil graddedig o Brifysgol Abertawe a ddaeth at Datrys yn 2015. Mae’n mwynhau’r amrywiaeth sydd gan ei rôl i’w chynnig. O’r naill ddiwrnod i’r llall, fe all fod yn goruchwylio dylunio draeniau, yn cynnal ymchwiliadau ar safleoedd ac yn cynllunio datrysiadau ar gyfer amrywiol brosiectau. Mae’r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys ailddatblygu dau safle ar Ffordd Yr Abaty yn Llangollen, ymchwiliad safle Cam 1 a 2 ar gyfer Gwesty Grange gynt, a phortffolio o brosiectau Cymdeithas Tai Modern.

Josh

Mae Josh, Peiriannydd Strwythurol Siartredig, yn gyfarwyddwr y swyddfa yng Nghaernarfon, lle mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros y prosiectau Peirianneg Strwythurol. Mae wedi teithio’n helaeth, ac mae’i arbenigedd yn gyfrifol am brosiectau adeiladau uchel yn Queensland, Awstralia.

Mae ehangder ei brofiad yn cynnwys dylunio strwythurau lloriau isaf, slabiau trosglwyddo llwyth, a strwythurau ffrâm, yn ogystal â strwythurau coed a gwaith maen traddodiadol. Mae Josh yn arwain y gwaith ar fentora a datblygu graddedigion Peirianneg Strwythurol.

Patrick

Graddiodd Patrick ‘llynedd gydag MEng dosbarth un mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Sheffield. Ar gyfer ei draethawd ymchwil Meistri, fe ymgymerodd â modelu ffisegol o argaeau â chraidd clai gan ddefnyddio allgyrchydd geo-dechnegol. Ers bod yn gweithio i Datrys, mae wedi cynnal y dyluniad strwythurol ar gyfer nifer o brosiectau domestig, yn cynnwys adeiladau newydd o fflatiau Passivhaus sy’n arbed ynni i Gyngor Sir Ddinbych. Mae Patrick yn mwynhau’r amrywiaeth o waith yn Datrys, sy’n ymwneud â dylunio ystod eang o ffurfiau a deunyddiau strwythurol. Mae Patrick yn awr yn hyfforddi i ddod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Stuart

Ac yntau’n Beiriannydd Sifil/Strwythurol graddedig, roedd Stuart yn awyddus i ymuno â Datrys ac i ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau a phrofiad na fyddai ar gael efallai mewn gwasanaethau ymgynghori mwy o faint. Mae’i brosiectau wedi cynnwys Fflatiau Gwesty’r Grange yn y Rhyl a dylunio sylfeini’r adeilad ar gyfer Gorsaf Wasanaethau Mile End.

Mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Sion Salisbury ar arolygon strwythurol a gwaith dylunio ar gyfer adnewyddu adeilad rhestredig Gradd 2 ym Mae Colwyn, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Conwy. Mae’n parhau i gyfrannu at nifer o brosiectau preswyl, gan ddarparu cyfrifiadau strwythurol ar gyfer anheddau newydd eu hadeiladu ac estyniadau/gwelliannau i anheddau presennol.

Mae Stuart yn mwynhau cysylltu â llawer o gleientiaid yn Gymraeg, lle mae wedi gwneud defnydd o brofiad a enillodd yn ystod ei gwrs rhyngosod yn y brifysgol i gynghori ar amrywiaeth o gynlluniau yn wneud â draenio a lliniaru llifogydd, yn cynnwys dylunio Pecyn Gwaith Datblygedig Aber i Dai’r Meibion.

Warren

Mae Warren yn goruchwylio prosesau yn swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug ac mae’n gwerthfawrogi’r ymdeimlad o fod yn berchen ar brosiectau sydd o fudd i holl staff Datrys. Flwyddyn ar ôl ymuno â Datrys fel person graddedig yn 2004, fe’i hetholwyd yn Gyfarwyddwr y cwmni.

Mae Warren ar hyn o bryd yn gysylltiedig ag adnewyddu ac ymestyn adeilad aml-lawr yn Llundain; datblygu dau floc o fflatiau newydd eu hadeiladu ym Mae Colwyn; a dylunio unedau busnes newydd ar Ynys Môn.

Mae uchafbwyntiau blaenorol yn cynnwys y gwaith o ddylunio a phrosiect-reoli ar gyfer dau graen nenbont newydd i ddociau ar gyfer gweithrediadau a chanolfan gynnal a chadw RWE Npower ym Mhorthladd Mostyn ar gyfer fferm wynt Gwynt y Môr gwerth €2 biliwn. Warren oedd y prif beiriannydd dylunio ar gyfer cyfleuster gofal ychwanegol Bryn Seiont yng Nghaernarfon.

Llwyddodd Warren i ennill statws Siartredig yn 2014.

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI