Uwch-beiriannydd Strwythurol Gogledd Cymru
Uwch Beiriannydd Strwythurol Siartredig
Lleoliad
Yr Wyddgrug neu Gaernarfon
Cytundeb
Parhaol
Cyflog
Amrediad cyflog o £40,000 – £50,000, yn dibynnu ar brofiad
Oriau gwaith
Amser llawn 37.5 awr yr wythnos
Mae Datrys yn gwmni cyfeillgar, blaengar gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon a’r Wyddgrug. Rydym yn chwilio am y person iawn i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd am fwy o gyfrifoldeb yn y rôl hon ar gyfer rheoli masnachol, cleientiaid a staff yn ogystal â datblygiad technegol parhaus gan felly wneud cyfraniad gwirioneddol tuag at ddatblygu’r busnes.
Mae gan Datrys achrediadau ISO 9001 a 14001.
Er mwyn cynnal ein llwyth gwaith cynyddol, hoffem benodi Uwch Beiriannydd Strwythurol brwdfrydig chryf ei gymhelliad i weithio naill ai yn ein Swyddfa yng Nghaernarfon neu’r Wyddgrug i gyfrannu at gyflawni targedau twf ein Cynllun Busnes.
Mae hwn yn gyfle gwych i beiriannydd Strwythurol siartredig gyda phrofiad sylweddol (o leiaf 5 mlynedd ôl-raddedig yn gweithio mewn amgylchedd ymgynghoriaeth peirianneg) er mwyn mynd â’u gyrfa i’r cam nesaf. Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ein prosiectau, gan gynnwys cynllun a chynlluniau, cyfrifiadau a rheolaeth fanwl ar amrywiaeth o brosiectau peirianneg yn ogystal â datblygu ochr rheoli cleientiaid/masnachol y busnes ac arwain/datblygu staff eraill.
Ynglŷn â Datrys
Busnes annibynnol, sefydledig sy’n tyfu
Arbenigedd ym maes gwasanaethau ymgynghori peirianneg sifil, adeiladu a geodechnegol
Cwmni maint delfrydol i beiriannydd greu gwahaniaeth ynddo
Amrywiaeth o brosiectau i weithio arnynt.
Swydd Ddisgrifiad
Fel Uwch Beiriannydd byddwch yn siartredig i MIStructE neu MICE. Mae’r gallu i gymryd cyfrifoldeb yn gwbl hanfodol a byddwch yn cael cyfle i weithio ar ystod amrywiol o brosiectau a darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol i’n cleientiaid. Mae hon yn rôl weithredol lle mae gofyn cymryd cyfrifoldeb dros brosiect o’r dechrau i’r diwedd. Mae yna botensial i ddatblygu agweddau ar reoli cleientiaid, masnachol a marchnata’r busnes.
Bydd eich prif ddyletswyddau’n cynnwys
- Rheoli prosiect, yn cynnwys darparu amcangyfrifon, anfonebu a chymryd cyfrifoldeb dros lwyddiant masnachol prosiectau.
- Cyfathrebu’n uniongyrchol gyda chleientiaid, datblygu briffiau i gleientiaid a mynychu cyfarfodydd prosiect.
- Rheoli cynhyrchu dogfennau technegol gan aelodau eraill o’r tîm
- Mentora, datblygu a rheoli staff
- Datblygu cynlluniau a chynnig datrysiadau peirianneg ar gyfer prosiectau
- Dilysu cyfrifiadau cynllunio a darluniadau sy’n cael eu gwneud gan beirianwyr a thechnegwyr
- Cynhyrchu adroddiadau technegol cryno yn unol â disgwyliadau’r cleient.
- Ymweld â safleoedd i gynrychioli’r cwmni ac ymgymryd ag archwiliadau a monitro gwaith adeiladu.
- Datblygu dyluniadau a manylion peirianneg yn unol â brîff y prosiect
- Paratoi cyfrifiadau, adroddiadau ysgrifenedig a manylebau.
Gofynion person
Rydym yn annog ein staff i arddangos brwdfrydedd dros ddylunio, cymhelliant ac ysgogiad, diddordeb a pharodrwydd i ddysgu ac awydd i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cleientiaid yn effeithiol. Byddwch yn gweithio’n dda fel rhan o dîm gyda sgiliau rhyngbersonol da ac yn rhywun sy’n awyddus i wneud cyfraniad positif i’r amgylchedd gwaith. Fel aelod allweddol o’r tîm, byddwch yn frwd dros arwain/cefnogi aelodau eraill o’r tîm ac yn gallu gwneud hynny, yn ogystal â rhoi gwasanaeth gofal cwsmer rhagorol.
Bydd gennych:
Sgiliau a Phrofiad:
- Peiriannydd Strwythurol (bron yn) siartredig
- gradd/MEng mewn Peirianneg Sifil neu faes perthnasol
- rhagoriaeth mewn dylunio technegol a dealltwriaeth fanwl o’r Eurocodes, Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu perthnasol
- gogwydd tuag at TG a phrofiad o ddefnyddio meddalwedd modelu, dadansoddi a chynllunio ac yn ddelfrydol gyda phrofiad o ddefnyddio Revit
- o leiaf pum mlynedd o weithio mewn ymgynghoriaeth peirianneg yn y DU
- sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog er mwyn gallu trafod gyda chleientiaid, aelodau eraill o’r tîm a chynhyrchu adroddiadau cryno, wedi eu hysgrifennu’n dda
- profiad o reoli a mentora tîm o beirianwyr a thechnegwyr gyda diddordeb cryf i ddatblygu’r maes yma.
- Mae’n rhaid i chi fod yn preswylio ac yn gallu gweithio yn y DU a bod yn meddu ar drwydded yrru lawn y DU.
Ymddygiadau:
- Dull o weithio a gallu cwrdd â dyddiadau cwblhau mewn ffordd drefnus, wedi’i chynllunio
- Arddangos agwedd greadigol tuag at ddatrys problemau
- Gallu bod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion y busnes a gofynion sy’n newid gan y cleient
- Bod yn ymrwymedig wrth gyflawni prosiectau a datblygu’r tîm a’r busnes cyfan
- Wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ac i gyfrannu’n weithredol at arwain a datblygu aelodau’r tîm.
Yn gyfnewid am hyn, rydym ni’n cynnig:
- Cyflog cystadleuol
- Gwyliau – gan ddechrau ar 25 diwrnod, ynghyd â Gwyliau Banc.
- Cynllun Pensiwn
- Llwyth gwaith diddorol ac amrywiol
- Tîm cefnogol a chyfeillgar
- Prosiectau sy’n heriol yn dechnegol ac a fydd yn herio eich sgiliau
- Cyfleoedd sylweddol i ddatblygu a rhoi sgiliau masnachol, marchnata a rheoli ar waith.
- Telir ffïoedd aelodaeth proffesiynol gan y Cwmni
- Cerdyn parcio
- Pecyn Reward Gateway
Mae Datrys yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd addas, yn cynnwys rhai sy’n chwilio am opsiynau gweithio hyblyg.
Sut i Ymgeisio
Oes oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon, anfonwch eich CV, ynghyd â llythyr eglurhaol yn dweud wrthym ni am eich cefndir, pam mae’r swydd o ddiddordeb i chi a beth fyddwch chi’n ei ddod i Datrys, trwy ebostio info@datrys.coop.