Prif Wobr i Gartref Gofal Caernarfon
Mae Bryn Seiont Newydd wedi cael ei enwi yn y cartref gofal gorau yn y DU. Wedi’i agor fis Tachwedd diwethaf ar gyrion Caernarfon, derbyniodd Bryn Seiont Newydd y brif wobr yn y prif gategori yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016.
Cyflogwyd Datrys gan Adeiladwyr a Chontractwyr Carroll o Ruthun fel rhan o gontract dylunio ac adeiladu i ymgymryd ag agweddau strwythurol a pheirianneg sifil llawn Cyfnod 1 o’r cartref gofal.
Roedd y prosiect £4m yn cynnwys chwalu adeiladau’r hen ysbyty cymunedol sef Ysbyty Bryn Seiont, clirio’r safle ac ymgymryd ag adeiladu lle newydd i’r safonau diweddaraf.
Roedd Wynn Rogers, syrfewyr adeiladu siartredig o Ddinbych, yn benseiri i’r ganolfan. Mae’n gyfleuster gyda 71 gwely wedi’u rhannu i wyth uned fach debyg i deulu. Mae hyn i sicrhau gofal a sylw unigol ei breswylwyr.
Gan adeiladu ar gwblhad llwyddiannus Cyfnod 1, mae’r un tîm dylunio ar hyn o bryd yn ymgymryd â Chyfnod 2 o’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol £3m ar y safle.
Dywedodd Warren Lewis, Rheolwr Prosiect: “Roedd hwn yn brosiect a redwyd yn dda. Roedd gweithio gyda’r tîm dylunio yn broses esmwyth.”
“Mae wedi arwain at gynnyrch gwych ar y diwedd. Rydym yn falch o fod wedi bod ynghlwm yn y fath brosiect pwysig o fewn ein cymuned. Bydd yn elwa’r boblogaeth leol o ran cyfleusterau gofal a swyddi.”
Bryn Seiont Newydd yw syniad Mario Kreft a’i wraig Gill. Bu iddynt sefydlu Parc Pendine ychydig dros 30 mlynedd yn ôl pan oeddent yn methu canfod gofal cymdeithasol addas ar gyfer eu neiniau a’u teidiau eu hunain.