Prosiect Hufenfa Mawr

Mae Datrys wedi cael ei benodi fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol ar gyfer cynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd gan Hufenfa De Arfon. Bydd y prosiect yn ehangu cyfleusterau cynhyrchu caws Hufenfa De Arfon ac yn cynnwys troi rhan o’r storfa gaws presennol yn ardal gynhyrchu.

Bydd ardal gofal uchel yn cael ei chreu i gwrdd â safonau diogelwch bwyd llym. Bydd wal tân 10m o uchder hefyd yn cael ei hadeiladu, mae Datrys wedi cynllunio’r rhwystr i leihau’r elfen gwarchod rhag tân ychwanegol i’r strwythur presennol.

Bydd strwythurau llawr newydd yn cael eu hongian o do’r ffrâm ddur a’r offer cario. Ar gyfer hyn, modelodd Datrys y strwythur presennol a dosbarthodd y llwythi newydd er mwyn osgoi ei orbwyso.
Bydd system ddraenio pwmp newydd yn cario golch i lawr o’r ardal gynhyrchu i’r gwaith trin ar y safle.

Mae Advent yn gweithredu fel Rheolwyr Prosiect ar y prosiect hwn i Hufenfa De Arfon, gydag Ap Thomas yn darparu’r dyluniad pensaernïol a Hoare Lea y gwasanaethau adeiladu.

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE