Archwiliad o Bier Bangor

Mae Datrys wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Dinas Bangor ar adfer Pier y Garth, Bangor. Mae adfer y Pier, sydd â hyd o bron i 0.5km ac a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1896, yn cael ei weld fel catalydd i gynnal bywiogrwydd y rhan hon o Fangor, sydd â golygfa drawiadol tuag at Afon Menai a’r Gogarth.

Y cam cyntaf hanfodol o’r broses adfer oedd y disgrifiad o gyflwr presennol strwythur y Pier. Penodwyd Datrys gan y Cyngor Dinas i gynnal yr arolwg gweledol.

Defnyddiwyd system categori rhifo i fesur cyflwr yr elfennau dur, her fawr o ystyried y nifer fawr o elfennau dur o fewn y strwythur.

Defnyddiodd Datrys ddull ar gyfer y prosiect hwn sydd wedi’i fabwysiadu ar arolygiadau pier eraill ac fe brofodd yn llwyddiannus iawn yn achos Pier Garth.

Mae Datrys wedi cyflwyno canfyddiadau’r arolwg mewn adroddiad cryno gydag argymhellion. Mae Cyngor Dinas Bangor wedi cynnwys yr argymhellion mewn cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gweithiodd Datrys ar y prosiect adfer Pier Garth ochr yn ochr ag Advent a baratôdd yr amcangyfrif cost o fewn y cais.

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE