Hydro Ogwen
Crynodeb
Cynllun peirianneg sifil ar gyfer gorsaf gynhyrchu trydan hydro gymunedol leol
Mae Datrys wedi’i gomisiynu i ddarparu’r cynllun peirianneg sifil ar gyfer gorsaf gynhyrchu trydan hydro, Hydro Ogwen. Mae hwn yn fenter gydweithredol i harneisio grym Afon Ogwen yng Ngwynedd.
Mae Datrys yn cynllunio Gored Gymeriant a Phwerdy yr orsaf. Mae hwn yn gynllun 100 Kw cwymp isel wedi’i leoli oddeutu 0.4 milltir i’r de o Fethesda.
Disgwylir Hydro Ogwen gynhyrchu oddeutu 500 MWh yn flynyddol. Mae hyn yn ddigon i gyflenwi oddeutu 100 tŷ a gwrthbwyso mwy na 245 tunnell o allyriadau CO2. Bydd yr ynni hwn yn cael ei fwydo’n uniongyrchol i’r Grid Cenedlaethol.
Gobeithir y bydd Hydro Ogwen yn dechrau cynhyrchu trydan cyn diwedd 2016.
Manylion y Prosiect
- Cost: £0.5m
- Prosiect: Hydro Ogwen
- Cleient: Ynni Ogwen Cyf
- Lleoliad: Deo Fethesda, Gwynedd, Gogledd Cymru
Wedi’i ddatblygu gyntaf gan Bartneriaeth Ogwen, mae’r cynllun Hydro Ogwen nawr yn berchen gan Ynni Ogwen Cyf, cwmni elw cymunedol ac yn cael ei redeg ganddo.
Codwyd y cyfalaf i ariannu’r orsaf drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Bydd yr elw tafladwy mae’n ei gynhyrchu yn cael ei roi fel rhodd gymorth i elusen, wedi’i bennu gan Ynni Ogwen i’w ddyrannu yn ôl i gymunedau lleol.