Cynllun Hydro Mawr yn Ucheldiroedd yr Alban
Mae Datrys wedi cael ei gyflogi i gynnal dyluniad a rheoli prosiect cynllun Hydro Langwell yn Ullapool yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae’r cynllun £4.25 miliwn, dan berchnogaeth Canaird River Company Ltd, yn cynnwys argae, mewnlif ochrol, pibell 3km o hyd a 1000mm diamedr, pwerdy ac arllwysfa.
Mae’r tyrbin i’w gyfenwi ym mis Gorffennaf gyda’r gwaith i fod wedi’i gwblhau erbyn mis Hydref 2016.
Cyfrifoldeb Datrys oedd dyluniad peirianneg sifil y prosiect ynghyd â goruchwylio’r safle a rheoli prosiect y contract NEC.
Dywedodd Adam Caldwell, rheolwr y prosiect: “Mae hwn yn brosiect ysgogol sydd wedi bod yn her fawr mewn amgylchedd rhagorol.”
“Yn ogystal. Sicrhawyd ymdrech tîm ardderchog.”