Newyddion

Beth sy’n digwydd

Rydym wedi bod yn brysur dros yr ychydig fisoedd diwethaf gydag amrywiaeth o brosiectau. Mae’n newyddion i’w groesawu bod y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn bwriadu adolygu darpariaeth Cymru o dai fforddiadwy. Bwriedir i’r adolygiad ddadansoddi’r potensial i gynyddu arian cyfatebol yn ogystal ag archwilio sut mae partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gweithio yn ymarferol ar hyn o bryd. Parhau i ddarllen => Beth sy’n digwydd

Swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug – Blwyddyn yn Ddiweddarach

Yn ddiweddar, dathlodd swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug flwyddyn ers iddi agor ei drysau, a deuddeg mis yn ddiweddarach mae’r gangen yn ffynnu. Pennaeth y swyddfa yw Warren Lewis, Cyfarwyddwr Datrys, ac yn gweithio gydag ef mae’r Technegydd Peirianneg Graddedig newydd, Sandra Pousadas. Mae staff contract hefyd wedi cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn i gwrdd â’r galw. Parhau i ddarllen => Swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug – Blwyddyn yn Ddiweddarach

Archwiliad o Bier Bangor

Mae Datrys wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Dinas Bangor ar adfer Pier y Garth, Bangor. Mae adfer y Pier, sydd â hyd o bron i 0.5km ac a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1896, yn cael ei weld fel catalydd i gynnal bywiogrwydd y rhan hon o Fangor, sydd â golygfa drawiadol tuag at Afon Menai a’r Gogarth. Parhau i ddarllen => Archwiliad o Bier Bangor

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE