Datrys yn cael ei benodi i weithio ar Brosiect Adfywio Preswyl yn Y Rhyl
Mae Datrys wedi’i benodi i weithio ochr yn ochr â Phenseiri Ainsley Gommon ar brosiect adfywio strategol yn Y Rhyl. Mae’r prosiect Abbey Street yn cynnwys uwchraddio ac adeiladu naw o fflatiau a thai gyda chyfleusterau parcio cysylltiedig ar ran Cymdeithas Tai Gogledd Cymru.
Mae Datrys yn cynghori ar heriau peirianyddol allweddol y safle sy’n cynnwys y risg o lifogydd arfordirol a’r amodau tir gwael. Mae Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac ymchwiliadau geodechnegol gyda thyllau turio yn cael eu cynnal.
Datrys hefyd fydd yn darparu’r beirianneg strwythurol a dylunio draeniad. Mae’r cwmpas strwythurol yn cynnwys adrodd ar gyflwr strwythurol yr adeiladau presennol a dylunio atgyfnerthu ac uwchraddio dros dro.
“Mae’r prosiect hwn yn ddiddorol iawn gan ei fod yn defnyddio cynifer o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i gleientiaid o dan un to”, meddai Adam Caldwell, Peiriannydd Prosiect. “Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cael trosolwg yn gyflym ac yn gallu cynnig atebion o wahanol safbwyntiau. Mae problemau yna’n cael eu datrys gyda phob safbwynt yn cael ei hystyried.”
Mae’r prosiect wedi ei raglennu i symud yn gyflym, gyda chais cynllunio cynnar ar gyfer y gwaith wedi’i gyflwyno.