Datrys yn pasio Archwiliadau ISO 9001 ac ISO 14001
Mae Datrys yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael adborth cadarnhaol gan ein harchwilwyr, ISOQAR. Yr archwiliad 2 ddiwrnod oedd y cyntaf i gael ei wneud ers i gwmni Datrys gael ardystiad ISO 9001:2008 ac 14001:2004 yn gynharach eleni.
Diben yr archwiliad oedd gwirio bod y System Rheoli yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd.
Cyfarwyddwr Datrys, Warren Lewis, sy’n gyfrifol am y system rheoli ansawdd:
“Mae hyn yn newyddion da iawn i gwmni Datrys. Mae’n wych cael cadarnhad allanol ein bod yn gwneud pethau’n iawn, ac yn gweithio mewn ffordd gyson, o safon.”
Ychwanegodd: “Mae’n glod i bawb yn y cwmni ac yn cydnabod eu hymdrechion i sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud yn iawn bob dydd.”
Roedd ennill ardystiad ISO 9001:2008 ac 14001:2004 wedi’i osod fel nod strategol i’r cwmni yn 2013 a gweithiodd y cwmni gyda Mike Harvey Associates i lunio a gweithredu’r System Rheoli.
Mae Datrys yn gweld hyn fel cam cyntaf i yrru gwelliannau pellach, megis mabwysiadu prosesau LEAN.