Peirianneg Strwythurol

Cliciwch nawr i ddarllen mwy.

Mae Peirianneg Strwythurol wrth wraidd y gwasanaethau a gynigir gan gwmni Datrys.

Ein nod yw cynhyrchu gwaith sydd nid yn unig yn gydnaws ond hefyd yn integreiddio’n dda i mewn i ddyluniad terfynol yr adeilad yn ei gyfanrwydd.

Mae dull Datrys yn sylfaenol i sicrhau hyn.

Mae’n rhaid i ni ddeall rôl y strwythur a weithiwn arno wrth gefnogi’r dyluniad pensaernïol.

Rydym yn gweithio’n agos â phenseiri a dylunwyr eraill i gyfrannu at ddatblygiad y dyluniad, i ddod o hyd i atebion effeithiol yn y cyfnod cynllunio, ac i sicrhau cywirdeb ac eglurder trwy gydol y cyfnodau dylunio ac arlunio.

Rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o gynnwys deunyddiau adeiladu sydd fwyaf addas ar gyfer graddfa a ffurf y strwythur dan sylw: gwaith dur, concrit cyfnerth, pren a maen.

Rydym yn defnyddio modelu 3D gyda BIM, Revit Structure ac Autocad.

Rydym wedi bod yn gyfrifol am filoedd o brosiectau strwythurol eang dros y blynyddoedd.

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE