Awdur: design-datrys

Y Diweddaraf

Buom yn gweithio ar brosiect gwarchod arfordir hynod o ddiddorol ar benrhyn Llŷn dros gyfnod o chwech wythnos yn ddiweddar. Roedd y morglawdd sy’n eiddo preifat yn wynebu ty ar lan y môr yn Nefyn. Ymddangosodd twll mawr yn sydyn o flaen yr eiddo, ac fe drefnodd Datrys waith sefydlogi brys i ddiogelu’r tŷ. Parhau i ddarllen => Y Diweddaraf

Swyddfeydd Newydd yn Noc Fictoria

Rydym wrth ein bodd o fod wedi symud i’n swyddfeydd newydd yn Noc Fictoria, Caernarfon sy’n ein gweddu i’r dim. Mae’n ardal fywiog, fodern, yn enwedig ar ôl yr estyniad diweddaraf i Galeri. Mae’r datblygiadau’n enghraifft wych o adfer gan Gyngor Gwynedd ar ardal oedd wedi’i halogi ac yn ddiffaith ond sydd bellach yn fywiog a llawn defnydd. Parhau i ddarllen => Swyddfeydd Newydd yn Noc Fictoria

Newyddion yr Haf

Croesawn dri aelod newydd o staff sydd wedi dechrau gyda ni yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Lleolir Tom a Stuart yn Yr Wyddgrug, lle y byddant yn cynyddu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu’n lleol ac yn datblygu ac yn cryfhau rhagor ar ein presenoldeb yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Parhau i ddarllen => Newyddion yr Haf

Beth sy’n digwydd

Rydym wedi bod yn brysur dros yr ychydig fisoedd diwethaf gydag amrywiaeth o brosiectau. Mae’n newyddion i’w groesawu bod y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn bwriadu adolygu darpariaeth Cymru o dai fforddiadwy. Bwriedir i’r adolygiad ddadansoddi’r potensial i gynyddu arian cyfatebol yn ogystal ag archwilio sut mae partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gweithio yn ymarferol ar hyn o bryd. Parhau i ddarllen => Beth sy’n digwydd

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE