Newyddion yr Haf

Croesawn dri aelod newydd o staff sydd wedi dechrau gyda ni yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Lleolir Tom a Stuart yn Yr Wyddgrug, lle y byddant yn cynyddu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu’n lleol ac yn datblygu ac yn cryfhau rhagor ar ein presenoldeb yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Mae Adam wedi ymuno â ni fel technegydd dan hyfforddiant yng Nghaernarfon. Fe fydd yn darparu cymorth ledled amrywiaeth o brosiectau ac yn datblygu’i sgiliau peirianyddol sifil a strwythurol a’i ddefnydd o Revit a Civils 3D.

O ran materion eraill, rydym wedi dechrau defnyddio’r gweinydd sydd wedi’i seilio ar Gwmwl, SharePoint. Gwelwn hyn fel ased gwych, ac rydym oll yn edrych ymlaen at fedi’r buddion o roi’r gorau i weinydd swyddfa a bod yn gallu cynnig trefniadau gweithio hyblyg sy’n cynorthwyo’r staff, yn ogystal â chynorthwyo cynnydd y busnes. Mae hefyd yn golygu bod cyfathrebu â ffeiliau rhwng swyddfeydd Yr Wyddgrug a Chaernarfon yn awr yn llyfn a di-dor.

Rydym wedi llofnodi prydles y swyddfa newydd ac fe edrychwn ymlaen at gymryd dwy uned yn Noc Fictoria, Caernarfon. Gyda’r oriel a’r sinema newydd ar fin cael eu hagor gerllaw, maent yn cynnig amgylchedd newydd a bywiog, ac fe obeithiwn fwynhau hyn o fewn y ddau fis nesaf. 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE