Academi Busnes Gogledd Cymru

Rydym wedi croesawu Wendy Heaton sydd wedi dechrau gyda ni fel Rheolwr Prosiectau. Nodwyd y rôl hon drwy’r gwaith dadansoddi y gwnaethom ei gynnal ar y cyd â Phrifysgol Bangor a sesiynau Academi Busnes Gogledd Cymru gyda’r Brifysgol.

Fe gafodd ganlyniad cadarnhaol iawn, ac mae buddion cyfraniad Wendy a’i gwaith casglu data eisoes i’w gweld, a hynny ar ffurf gwelliannau gyda rhaglennu’n prosiectau a dyrannu adnoddau.

Elfen arall a sgîl-fantais ychwanegol o’r sesiynau hyn yw bod dau o’n graddedigion wedi mynychu hyfforddiant Rheoli Prosiectau gyda’r Academi Busnes, ac rydym hefyd wedi bod yn cynnal ymgyrch recriwtio strategol, yn benodol gyda’r swyddfa yn Yr Wyddgrug, sydd wedi profi’n llwyddiannus, gyda dau beiriannydd ychwanegol i’w croesawu yn o fuan.

Fe roddodd gweithio â’r Academi olygwedd o’r newydd inni tuag at ein cynllun busnes ac fe roddodd amryw o fewnbynnau inni.

Mae ein tîm yn Swyddfa’r Wyddgrug hefyd wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth weithio ag Awyrofod Magellan, sydd wedi golygu cysylltiadau â’r buddsoddiad y maent wedi’i wneud fel rhan o raglen fuddsoddi ledled safleoedd.

Mae’n brosiect sydd o fudd i’n statws, i’n syniadaeth ac i’n dadansoddiad o’r busnes, ac mae yna ddigonedd yn rhagor o ddatblygiadau cyffrous ar y gorw

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE