Beth sy’n digwydd

Rydym wedi bod yn brysur dros yr ychydig fisoedd diwethaf gydag amrywiaeth o brosiectau. Mae’n newyddion i’w groesawu bod y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn bwriadu adolygu darpariaeth Cymru o dai fforddiadwy. Bwriedir i’r adolygiad ddadansoddi’r potensial i gynyddu arian cyfatebol yn ogystal ag archwilio sut mae partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gweithio yn ymarferol ar hyn o bryd.

Mae llawer o’n contractau mwyaf hirsefydlog gyda chymdeithasau tai.
 
Mae’r adroddiad o ddiddordeb neilltuol wrth inni barhau i gynghori Williams Homes yn Y Bala a Wrecsam, sy’n darparu tri datblygiad tai cymdeithasol ar gyfer Cymdeithas Dai Grŵp Cynefin. Mae Adam wedi bod yn gysylltiedig iawn â’r contractau hyn.
 
Mae ymateb Cartrefi Cymunedol Cymru i gyhoeddiad yr adolygiad – y bydd cyfradd y ddarpariaeth gyfredol yn dyblu i o leiaf 75,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf – yn golygu her aruthrol fawr i’r diwydiant, ac mae’n amlygu’r angen i ddenu a datblygu doniau i ddiwallu’r galw. Mae’r holl gynlluniau hyn yn cyd-fynd â lansiad ym mis Tachwedd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru o ‘Gorwelion Tai’, sef Papur Gwyn sy’n amlinellu gweledigaeth i wneud tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
 
Mewn mannau eraill, rydym wedi bod yn gweithio yn Ysgol Ardudwy yn Harlech, a ddioddefodd ddifrod i’w tho yn ystod Storm Emma. Gwnaethom gynghori Cyngor Gwynedd a’u contractwyr ynglŷn â chryfder strwythur yr adeilad presennol i ganiatáu i weithwyr fynd ar ben y tro i’w atgyweirio.
 
Mae ein swyddfa yn Yr Wyddgrug wedi bod yn brysur yn cynllunio datblygiad diwydiannol newydd yn Sir y Fflint, sydd yn y cyfnodau cynllunio ac sy’n gysyniad rhagarweiniol. Rydym hefyd wedi derbyn newyddion gwych ein bod wedi sicrhau prosiect arall gyda chwmni Awyrofod Magellan.

Rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ag Ymgynghorydd Technoleg Gwybodaeth lleol i drosi’n holl systemau i system gwmwl, fydd yn rhoi hyblygrwydd inni wrth weithio. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn treialu hynny ac yn bwriadu newid yn o fuan.

Fe’n penodwyd ar gyfer datblygiad fflatiau 34 o unedau ar gyfer Cymdeithas Dai Pennaf ym Mae Colwyn, ac rydym newydd gael cyfarfod agoriadol â’r Pensaer, John McCall o Lerpwl. Rydym wedi cydweithredu ar brosiectau o’r blaen, ac yn ddiweddar fe wnaethom gwblhau prosiect llwyddiannus cyffelyb gyda’r tîm yno ym Maes Helyg ar Lannau Dyfrdwy, a oedd hefyd ar gyfer Tai Pennaf.

Mae Jac, person graddedig, newydd ddechrau gyda ni, ac fe fydd Alicia yn ymuno â ni ar leoliad myfyrwyr am yr haf ar ôl newydd orffen ei blwyddyn gyntaf o Beirianneg Strwythurol Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn sicr y daw’r ddau’n ychwanegiadau gwerthfawr iawn at y tîm yma.

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE