Buom yn gweithio ar brosiect gwarchod arfordir hynod o ddiddorol ar benrhyn Llŷn dros gyfnod o chwech wythnos yn ddiweddar. Roedd y morglawdd sy’n eiddo preifat yn wynebu ty ar lan y môr yn Nefyn. Ymddangosodd twll mawr yn sydyn o flaen yr eiddo, ac fe drefnodd Datrys waith sefydlogi brys i ddiogelu’r tŷ. Parhau i ddarllen => Y Diweddaraf
Mae Bryn Seiont Newydd wedi cael ei enwi yn y cartref gofal gorau yn y DU. Wedi’i agor fis Tachwedd diwethaf ar gyrion Caernarfon, derbyniodd Bryn Seiont Newydd y brif wobr yn y prif gategori yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016. Parhau i ddarllen => Prif Wobr i Gartref Gofal Caernarfon
Mae’r Uned Gofal Ychwanegol newydd gwerth £7-£8 miliwn ym Mhorthmadog – a ddyluniwyd gan benseiri Ainsley Gommon o Benarlâg, gyda Datrys fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol – wedi’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio ar ran Grŵp Cynefin. Parhau i ddarllen => Uned Gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog
Mae Datrys wedi’i benodi i weithio ochr yn ochr â Phenseiri Ainsley Gommon ar brosiect adfywio strategol yn Y Rhyl. Mae’r prosiect Abbey Street yn cynnwys uwchraddio ac adeiladu naw o fflatiau a thai gyda chyfleusterau parcio cysylltiedig ar ran Cymdeithas Tai Gogledd Cymru. Parhau i ddarllen => Datrys yn cael ei benodi i weithio ar Brosiect Adfywio Preswyl yn Y Rhyl
Mae Datrys yn falch i groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon: George Voulgarelis a Niel Williams. Parhau i ddarllen => Datrys yn recriwtio dau beiriannydd newydd