Creigir Wen, Abersoch
Crynodeb
Annedd deulawr newydd yn Abersoch
Darparodd Datrys gyfrifiadau a darluniau dylunio ar gyfer annedd deulawr newydd yn Abersoch wedi’i osod o fewn y bryn ac yn edrych allan dros y môr.
Manylion y Prosiect
- Prosiect: Cregir Wen, Abersoch
- Cleient: Preifat
- Lleoliad: Gogledd Cymru
Mae tu mewn yr eiddo yn lle agored iawn sy’n gadael digon o olau naturiol i mewn. Mae gan yr eiddo ddyluniad to wedi’i dorri’n draddodiadol gyda thrawstiau glulam agored a thrawstiau cyplog. Mae yna nifer o gymalau a fframiau dur cudd o fewn y waliau a’r llawr i sicrhau sefydlogrwydd o dan lwyth gwynt ochrol wrth gynnal natur lyfn cyffredinol yr adeilad.
Mae’r cefn yn wynebu’r môr ac mae ganddo falconi cantilifrog eang sy’n estyn o’r llawr cyntaf. Mae fframiau glulam gyda gwydr yn cael eu cefnogi oddi ar y balconi sydd yn nodwedd bensaernïol ac yn darparu gorchudd yn erbyn tywydd garw.
Roedd y gwaith dylunio yn cynnwys:
- Muriau cynhaliol
- Dylunio trawst a ffrâm glulam
- Dylunio gwaith dur
- Asesiad balconi cantilifrog ar gyfer ysigiad
Lluniadau adeiladu a rhoi manylion am gysylltiadau.