Categori: Masnachol a Diwydiannol
Mae Datrys wedi cael ei benodi fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol ar gyfer cynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd gan Hufenfa De Arfon.
Bydd y prosiect yn ehangu cyfleusterau cynhyrchu caws Hufenfa De Arfon ac yn cynnwys troi rhan o’r storfa gaws presennol yn ardal gynhyrchu.
Bydd ardal gofal uchel yn cael ei chreu i gwrdd â safonau diogelwch bwyd llym. Bydd wal tân 10m o uchder hefyd yn cael ei hadeiladu, mae Datrys wedi cynllunio’r rhwystr i leihau’r elfen gwarchod rhag tân ychwanegol i’r strwythur presennol.
Parhau i ddarllen => Prosiect Hufenfa Mawr
Mae Datrys yn falch i groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon: George Voulgarelis a Niel Williams.
Mae George yn beiriannydd strwythurol, sy’n arbenigo mewn pethau fel cyfleusterau gofal a phrosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol. Peiriannydd sifil yw Niel sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau geodechnegol, Asesiadau Canlyniadau Llifogydd, dylunio ffyrdd a draenio.
Bydd dyfodiad yr aelodau newydd o staff hyn yn galluogi i gwmni Datrys gynyddu nifer a maint y prosiectau yr ydym yn ymgymryd â hwy.