Gorsaf Bad Achub RNLI Aberdyfi
Crynodeb
Estyniad i’r cyfleuster presennol yng Ngorsaf Bad Achub RNLI Aberdyfi
Gofynnwyd i gwmni Datrys ddylunio estyniad i’r cyfleuster presennol yn yr orsaf bad achub gan gynnwys swyddfeydd, ystafelloedd bwyta a storfeydd cychod newydd. Roedd y strwythur yn gyfuniad o ffrâm borth durwaith, coed a cherrig sy’n dal pwysau ar sylfaen rafft concrit ar dir wedi llenwi.
Manylion y Prosiect
- Prosiect: RNLI Aberdovey
- Cleient: RNLI
- Lleoliad: Gogledd Cymru
Mae’r orsaf bad achub wedi’i lleoli ym mhentref bach Aberdyfi ar ochr ogleddol aber Dyfi ac mae wedi bod yn gweithio ers bron i 140 o flynyddoedd.
rnli.org/findmynearest/station/Pages/Aberdovey-Lifeboat-Station