Cedar Court, Bae Colwyn
Roedd y prosiect yn cynnwys dymchwel eiddo Gwely a Brecwast adfeiliedig ar dir helaeth ac adeiladu dau floc o fflatiau yn cynnwys 22 o unedau hunangynhwysol dros bedwar llawr. Mae’r adeiladau yn eistedd i’r llechwedd uwchben canol y dref ac mae gan yr unedau blaen olygfeydd panoramig dros yr arfordir.
Darparodd Datrys wasanaethau peirianneg sifil a strwythurol llawn ar gyfer y datblygiad gan gynnwys dylunio nifer o waliau cynnal i’r ffiniau ac o fewn y safle.
Roedd y prosiect yn adeilad traddodiadol yn cynnwys waliau ceudod o waith maen, lloriau concrit, a thoeon trawstiau cypledig.
Manylion y Prosiect
Cleient: Oaking Developments
Lleoliad: Colwyn Heights, Bae Colwyn