Prosiect Trydan Hydro Bryn Cowlyd
Crynodeb
Prosiect trydan hydro mawr ar gyfer Dulas ar ran Dŵr Cymru
Datrys oedd y Cyfarwyddwyr Prosiect ar gyfer y prosiect trydan hydro mawr hwn yn Nulas ar ran Dŵr Cymru. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu dau bwerdy newydd mewn lleoliadau anghysbell ac anodd.
Roedd angen dylunio sylfeini a siambrau o goncrid cyfnerth dwfn tra bod y pibellau cyfagos yn parhau’n weithredol. Golygai hyn bod angen cynllun gwaith dros dro ar gyfer y Cleient a’r Contractwr er mwyn sicrhau parhad y cyflenwad dŵr.
Dyluniwyd y concrid cyfnerth i safon cadw dŵr.
Manylion y Prosiect
- Prosiect: Prosiect Trydan Hydro Bryn Cowlyd
- Cleient: Dulas ar ran Dŵr Cymru
- Lleoliad: Gogledd Cymru