Y Diweddaraf

Buom yn gweithio ar brosiect gwarchod arfordir hynod o ddiddorol ar benrhyn Llŷn dros gyfnod o chwech wythnos yn ddiweddar. Roedd y morglawdd sy’n eiddo preifat yn wynebu ty ar lan y môr yn Nefyn. Ymddangosodd twll mawr yn sydyn o flaen yr eiddo, ac fe drefnodd Datrys waith sefydlogi brys i ddiogelu’r tŷ.

Yn syth wedyn aed ati i ddylunio a rheoli’r gwaith sefydlogi ar y morglawdd, a gwblhawyd o fewn y gyllideb a’r rhaglen ganol mis Tachwedd.

Mae’n braf adrodd inni lwyddo cael ein penodi ar nifer o ddatblygiadau tai cymdeithasol ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys dau yn ardal Wrecsam – y naill ym Mrymbo a’r llall yn Rhiwabon gyda Brenig Construction – un arall yn Llanbedr Dyffryn Clwyd a’r pedwerydd yn Llanfyllin. Mae’r ddau olaf gyda Williams Homes o’r Bala.

Edrychwn ymlaen at fynd i’r afael a’r gwaith ar y rhain a bwrw iddi go iawn dros y misoedd nesaf.

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE