Datblygiadau Tai Cymdeithasol
Mae Datrys wedi bod yn gweithio’n agos gyda Williams Homes ar nifer o ddatblygiadau tai gan gynnwys Harlech lle mae 20 uned yn cael eu hadeiladu ar gyfer Grŵp Cynefin. Yn Cegidfa lle mae 28 o unedau ar gyfer Clwyd Alyn yn cael eu hadeiladu, gyda Datrys yn darparu cefnogaeth adeiladu lle bo angen ar ôl ymgymryd â dyluniad manwl llawn. Yn ogystal â datblygiad 41 o dai ym Mhenrhyndeaudraeth ar gyfer Clwyd Alyn a Grŵp Cynefin.