Rheilffordd Ucheldir Cymru
Crynodeb
Adfer Rheilffordd Ucheldir Cymru drwy Eryri
Penodwyd Datrys yn Rheolwr Prosiect ar gyfer elfennau sylweddol o’r gwaith o adfer y rheilffordd drwy Eryri i fras werth o £2.5m.
Roedd y gwaith yn cynnwys dylunio pontydd, gwrthgloddiau a draenio, a gosod a gweinyddu’r cytundebau.
Manylion y Prosiect
- Prosiect: Welsh Highland Railway
- Cleient: Welsh Highland Railway
- Lleoliad: Gogledd Cymru
- Cost: £2.5M
Rheilffordd Ucheldir Cymru yw rheilffordd treftadaeth hiraf y Deyrnas Unedig. Mae’n rhedeg am 25 milltir o Gaernarfon, heibio troed yr Wyddfa a phentref prydferth Beddgelert, yna trwy fwlch trawiadol Aberglaslyn ac ymlaen i Borthmadog.
Mae’r teithwyr yn teithio yn rhai o’r cerbydau mwyaf cyfforddus ar unrhyw reilffordd treftadaeth yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys moethusrwydd Dosbarth Cyntaf Pullman.