Castell Deudraeth, Portmeirion
Crynodeb
Ailwampio strwythur castell yn westy o ansawdd uchel
Manylion y Prosiect
- Prosiect: Castell Deudraeth, Portmeirion
- Cleient: Portmeirion Ltd
- Lleoliad: Gogledd Cymru
- Cost: £2 million
Agorodd Castell Deudraeth yn 2001 yn dilyn adnewyddu llawn o’r adeilad Fictorianaidd ac adfer y gerddi. Mae’r holl adeiladau ym Mhortmeirion yn rhestredig Gradd II ac mae’r ystâd gyfan yn Ardal Gadwraeth ddynodedig.
Plasty Fictoraidd castellog cynnar a adeiladwyd gan David Williams, yr AS Rhyddfrydol cyntaf dros Feirionnydd. Prynodd Clough Williams-Ellis yr adeilad a’i diroedd yn 1931 er mwyn ehangu ystâd Portmeirion ac i roi tramwyfa iawn iddo o’r brif ffordd. Fe’i defnyddiodd fel gwesty yn y 1930au, yna daeth yn ysgol baratoi ac ar un adeg cafodd ei droi yn fflatiau dethol ar gyfer pobl fel y teulu Oppenheimer.
Er gwaethaf bwriadau gorau Clough i integreiddio’r Castell i mewn i’r gwesty presennol ym Mhortmeirion, fe wnaeth y rhyfel a chyfyngiadau adeiladu dilynol oedi’r gwaith. Deng mlynedd a thrigain ar ôl iddo brynu’r lle mae gweledigaeth wreiddiol Clough wedi ei gwireddu o’r diwedd. Agorwyd Castell Deudraeth yn swyddogol gan Bryn Terfel ar 20 Awst, 2001.
www.portmeirion-village.com/stay/castell-deudraeth