Categori: Peirianneg Strwythurol
Mae Bryn Seiont Newydd wedi cael ei enwi yn y cartref gofal gorau yn y DU. Wedi’i agor fis Tachwedd diwethaf ar gyrion Caernarfon, derbyniodd Bryn Seiont Newydd y brif wobr yn y prif gategori yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016. Parhau i ddarllen => Prif Wobr i Gartref Gofal Caernarfon
Mae Datrys wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Dinas Bangor ar adfer Pier y Garth, Bangor. Mae adfer y Pier, sydd â hyd o bron i 0.5km ac a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1896, yn cael ei weld fel catalydd i gynnal bywiogrwydd y rhan hon o Fangor, sydd â golygfa drawiadol tuag at Afon Menai a’r Gogarth. Parhau i ddarllen => Archwiliad o Bier Bangor
Mae Datrys wedi cael ei benodi fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol ar gyfer cynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd gan Hufenfa De Arfon. Bydd y prosiect yn ehangu cyfleusterau cynhyrchu caws Hufenfa De Arfon ac yn cynnwys troi rhan o’r storfa gaws presennol yn ardal gynhyrchu. Parhau i ddarllen => Prosiect Hufenfa Mawr
Mae’r Uned Gofal Ychwanegol newydd gwerth £7-£8 miliwn ym Mhorthmadog – a ddyluniwyd gan benseiri Ainsley Gommon o Benarlâg, gyda Datrys fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol – wedi’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio ar ran Grŵp Cynefin. Parhau i ddarllen => Uned Gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog
Mae Datrys yn falch i groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon: George Voulgarelis a Niel Williams. Parhau i ddarllen => Datrys yn recriwtio dau beiriannydd newydd