Mae’r Uned Gofal Ychwanegol newydd gwerth £7-£8 miliwn ym Mhorthmadog – a ddyluniwyd gan benseiri Ainsley Gommon o Benarlâg, gyda Datrys fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol – wedi’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio ar ran Grŵp Cynefin.
Gan fod ardal Porthmadog yn adnabyddus am ei chyflwr daear anodd a’r risg o lifogydd, mae Datrys wedi paratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar gyfer y safle ac wedi adnabod y lefel y mae’n rhaid i’r adeilad gael ei godi ati.
Parhau i ddarllen => Uned Gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog
Mae Datrys yn falch i groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon: George Voulgarelis a Niel Williams.
Mae George yn beiriannydd strwythurol, sy’n arbenigo mewn pethau fel cyfleusterau gofal a phrosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol. Peiriannydd sifil yw Niel sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau geodechnegol, Asesiadau Canlyniadau Llifogydd, dylunio ffyrdd a draenio.
Bydd dyfodiad yr aelodau newydd o staff hyn yn galluogi i gwmni Datrys gynyddu nifer a maint y prosiectau yr ydym yn ymgymryd â hwy.