Categori: Grwpiau Cymunedol a Cyrff Anllywodraethol
Mae Datrys wedi’i gomisiynu i ddarparu’r cynllun peirianneg sifil ar gyfer gorsaf gynhyrchu trydan hydro gymunedol leol.
Mae Hydro Ogwen yn fenter gydweithredol i harneisio grym Afon Ogwen yng Ngwynedd.
Mae Datrys yn cynllunio Gored Gymeriant a Phwerdy yr orsaf. Mae hwn yn gynllun 100 Kw cwymp isel wedi’i leoli oddeutu 0.4 milltir i’r de o Fethesda ar sianel Afon Ogwen. Parhau i ddarllen => Cynllun Hydro Cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru
Mae’r Uned Gofal Ychwanegol newydd gwerth £7-£8 miliwn ym Mhorthmadog – a ddyluniwyd gan benseiri Ainsley Gommon o Benarlâg, gyda Datrys fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol – wedi’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio ar ran Grŵp Cynefin.
Gan fod ardal Porthmadog yn adnabyddus am ei chyflwr daear anodd a’r risg o lifogydd, mae Datrys wedi paratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar gyfer y safle ac wedi adnabod y lefel y mae’n rhaid i’r adeilad gael ei godi ati.
Parhau i ddarllen => Uned Gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog
Mae Datrys wedi’i benodi i weithio ochr yn ochr â Phenseiri Ainsley Gommon ar brosiect adfywio strategol yn Y Rhyl.
Mae’r prosiect Abbey Street yn cynnwys uwchraddio ac adeiladu naw o fflatiau a thai gyda chyfleusterau parcio cysylltiedig ar ran Cymdeithas Tai Gogledd Cymru.
Mae Datrys yn cynghori ar heriau peirianyddol allweddol y safle sy’n cynnwys y risg o lifogydd arfordirol a’r amodau tir gwael. Mae Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac ymchwiliadau geodechnegol gyda thyllau turio yn cael eu cynnal.
Parhau i ddarllen => Datrys yn cael ei benodi i weithio ar Brosiect Adfywio Preswyl yn Y Rhyl
Mae Datrys yn falch i groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon: George Voulgarelis a Niel Williams.
Mae George yn beiriannydd strwythurol, sy’n arbenigo mewn pethau fel cyfleusterau gofal a phrosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol. Peiriannydd sifil yw Niel sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau geodechnegol, Asesiadau Canlyniadau Llifogydd, dylunio ffyrdd a draenio.
Bydd dyfodiad yr aelodau newydd o staff hyn yn galluogi i gwmni Datrys gynyddu nifer a maint y prosiectau yr ydym yn ymgymryd â hwy.