Categori: Peirianneg Sifil
Buom yn gweithio ar brosiect gwarchod arfordir hynod o ddiddorol ar benrhyn Llŷn dros gyfnod o chwech wythnos yn ddiweddar. Roedd y morglawdd sy’n eiddo preifat yn wynebu ty ar lan y môr yn Nefyn. Ymddangosodd twll mawr yn sydyn o flaen yr eiddo, ac fe drefnodd Datrys waith sefydlogi brys i ddiogelu’r tŷ. Parhau i ddarllen => Prosiectau tai cymdeithasol newydd ag atgyweiriadau brys i wal fôr!
Mae Datrys wedi’i gomisiynu i ddarparu’r cynllun peirianneg sifil ar gyfer gorsaf gynhyrchu trydan hydro gymunedol leol. Mae Hydro Ogwen yn fenter gydweithredol i harneisio grym Afon Ogwen yng Ngwynedd. Parhau i ddarllen => Cynllun Hydro Cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru
Mae Bryn Seiont Newydd wedi cael ei enwi yn y cartref gofal gorau yn y DU. Wedi’i agor fis Tachwedd diwethaf ar gyrion Caernarfon, derbyniodd Bryn Seiont Newydd y brif wobr yn y prif gategori yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016. Parhau i ddarllen => Prif Wobr i Gartref Gofal Caernarfon
Mae Datrys wedi cael ei gyflogi i gynnal dyluniad a rheoli prosiect cynllun Hydro Langwell yn Ullapool yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae’r cynllun £4.25 miliwn, dan berchnogaeth Canaird River Company Ltd, yn cynnwys argae, mewnlif ochrol, pibell 3km o hyd a 1000mm diamedr, pwerdy ac arllwysfa. Parhau i ddarllen => Cynllun Hydro Mawr yn Ucheldiroedd yr Alban
Mae Datrys yn parhau gyda’i nod i dyfu a chryfhau ei dalentau gyda chyrhaeddiad pedwar aelod newydd o staff. Mae Jonathan Allen yn Beiriannydd Sifil Graddedig o Brifysgol Abertawe. Bydd wedi’i leoli yn ein pencadlys yng Nghaernarfon a bydd yn atgyfnerthu’r tîm presennol o beirianwyr. Parhau i ddarllen => Datrys yn Recriwtio 4 Aelod Staff Newydd
Mae Datrys wedi cael ei benodi fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol ar gyfer cynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd gan Hufenfa De Arfon. Bydd y prosiect yn ehangu cyfleusterau cynhyrchu caws Hufenfa De Arfon ac yn cynnwys troi rhan o’r storfa gaws presennol yn ardal gynhyrchu. Parhau i ddarllen => Prosiect Hufenfa Mawr
Mae’r Uned Gofal Ychwanegol newydd gwerth £7-£8 miliwn ym Mhorthmadog – a ddyluniwyd gan benseiri Ainsley Gommon o Benarlâg, gyda Datrys fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol – wedi’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio ar ran Grŵp Cynefin. Parhau i ddarllen => Uned Gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog
Mae Datrys yn falch i groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm yng Nghaernarfon: George Voulgarelis a Niel Williams. Parhau i ddarllen => Datrys yn recriwtio dau beiriannydd newydd