Beth yw peirianneg ymgynghorol?

Pwy yw Peirianwyr?

Datryswyr problemau, trefnwyr, cyfathrebwyr, cyfrifianellau a dylunwyr yw Peirianwyr. Maent yn gallu diffinio problem a’i chyfyngiadau perthnasol (megis amser, cost, ac ati) yn glir ac yn darparu ateb syml. Maent bob amser yn chwilio am ffyrdd cyflymach, gwell a llai costus i wella Ansawdd Bywyd pawb.

Beth yw Peirianneg?

Mae Peirianneg yn cyfuno gwyddoniaeth a mathemateg i ddatrys problemau byd go iawn sy’n gwella’r byd o’n cwmpas. Yr hyn sy’n hynod am beiriannydd yw ei allu ef / gallu hi i weithredu syniadau mewn dull cost effeithiol ac ymarferol. Y gallu hwn i gymryd meddwl, neu syniad haniaethol a’i droi yn wirionedd yw’r hyn sy’n gwahanu peiriannydd o feysydd gwyddoniaeth a mathemateg eraill.

Beth yw ymgynghoriaeth a pheirianneg?

“Mae cwmnïau ymgynghoriaeth a pheirianneg yn darparu gwasanaethau proffesiynol ar draws ystod o sectorau allweddol gan gynnwys adeiladu, ynni, seilwaith, trafnidiaeth a chyfleustodau. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys tirfesur, astudiaethau dichonoldeb, dylunio tirwedd, cynllunio trefol, dylunio strwythurol, rheoli perygl llifogydd a lleddfu effeithiau trychineb, cynllunio trafnidiaeth a gwella a threfnu busnes.

Mae ymgynghoriaethau o’r Deyrnas Unedig yn gweithio ym mron pob gwlad ledled y byd. Maent yn hanfodol i lwyddiant llawer o brosiectau, o’r eiconig i’r cyffredin.”

Diffiniad fel y rhoddwyd gan y Gymdeithas ar gyfer Ymgynghori a Pheirianneg

ACE

Beth yw Peirianneg Sifil?

“Mae peirianneg sifil yn ymwneud â helpu pobl a siapio’r byd. Y gwaith mae peirianwyr sifil yn ei gyflawni i wneud ein bywydau yn llawer haws.

Nhw sy’n cyflenwi trydan a nwy i’n cartrefi. Maent yn rhoi dŵr glân i ni ac yn ei buro er mwyn i ni ei ddefnyddio eto. Maent yn adeiladu pob math o bethau fel y gallwn symud o gwmpas, o ffyrdd a phontydd i reilffyrdd a meysydd awyr.

Mae peirianwyr sifil hefyd yn gwneud llawer o bethau eraill fel dod o hyd i ffyrdd clyfar o ailgylchu ein gwastraff, a dod o hyd i atebion i broblemau megis llygredd.”

Diffiniad a roddwyd gan ICE , Sefydliad y Peirianwyr Sifil

ICEng

Beth yw Peirianneg Strwythurol?

“Mae peirianwyr strwythurol yn dylunio, creu, datrys problemau, arloesi a defnyddio mathemateg a gwyddoniaeth i siapio’r byd. Mae’r strwythurau maent yn eu creu yn cael eu defnyddio gan bob un ohonom bob dydd; o dai, theatrau, stadia chwaraeon ac ysbytai, i bontydd, rigiau olew a lloerennau gofod.

Mae peirianwyr strwythurol ynghlwm â phob cam o wireddu strwythur ac maent yn rhan allweddol o dimau dylunio ac adeiladu. Maent yn gweithio gyda phenseiri, ac ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill i greu dyluniadau cysyniadol a sicrhau y gellir adeiladu’r strwythur a’i fod sefydlog ac yn gadarn.

Mae dadansoddiadau strwythurol yn galluogi peirianwyr i ddeall effeithiau llwythi / straeniau a achosir gan ddisgyrchiant, defnyddwyr y strwythur, a’r amodau hinsoddol a chyflwr tir amrywiol iawn o amgylch y byd. Mae dewis deunyddiau priodol ar gyfer y strwythur hefyd yn nodwedd bwysig o waith y peiriannydd strwythurol.”

Diffiniad fel y rhoddwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol

IStructE

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE