Dŵr a Draeniad

Mae ymchwiliadau perygl llifogydd a dylunio draeniad da wedi dod yn rheidrwydd dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd cynnydd yn y risg o lifogydd ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Ar ben hynny, mae diwygiadau i’r Ddeddf Diwydiannau Dŵr wedi galw am newidiadau i ddyluniad draeniad mabwysiadwy a’r gweithdrefnau ar gyfer ei fabwysiadu.

Mae Datrys wedi sicrhau bod ein peirianwyr yn gallu cwrdd â’r anghenion hyn.

Felly, rydym yn gweithio’n agos â Dŵr Cymru i symleiddio’r broses o ddylunio a mabwysiadu draeniad.

Rydym hefyd yn gyfarwydd â gofynion diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag asesu perygl llifogydd i TAN 15.

Rydym yn gwneud modelu llifogydd un dimensiwn a dau ddimensiwn.

Yn ogystal, rydym yn gwneud defnydd eang o SuDS wrth ddylunio systemau draenio dŵr storm i leihau arllwysiad oddi ar y safle.

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

  • Dylunio draeniad dŵr storm gan ddefnyddio SuDS
  • Dylunio draeniad dŵr budr a dŵr wyneb i garthfosydd eu mabwysiadu
  • Asesiadau Canlyniadau Llifogydd i TAN 15
  • Modelu llifogydd gan ddefnyddio FEHB, modelu 1 a 2 dimensiwn, gan gynnwys toriadau

Ewch i weld ein prosiectau dŵr a draeniad yn nawr.

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE