Bryn Seiont Newydd

Crynodeb

Agweddau strwythurol a pheirianneg sifil llawn Cyfnod 1 o’r cartref gofal

Cyflogwyd Datrys gan Adeiladwyr a Chontractwyr Carroll o Ruthun fel rhan o gontract dylunio ac adeiladu.

Roedd y prosiect £4m yn cynnwys chwalu adeiladau’r hen ysbyty cymunedol sef Ysbyty Bryn Seiont, clirio’r safle ac ymgymryd ag adeiladu lle newydd i’r safonau diweddaraf.

Mae Bryn Seiont Newydd yn gyfleuster gyda 71 gwely wedi’u rhannu i wyth uned fach debyg i deulu.

Roedd Wynn Rogers, syrfewyr adeiladu siartredig o Ddinbych, yn benseiri i’r ganolfan.

Mmae’r un tîm dylunio ar hyn o bryd yn ymgymryd â Chyfnod 2 o’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol £3m ar y safle.

Mae Bryn Seiont Newydd wedi cael ei enwi yn y cartref gofal gorau yn y DU yn 2016.

Manylion y Prosiect

  • Project: Bryn Seiont Newydd
  • Client: Carroll Builders & Contractors
  • Location: Caernarfon, Gwynedd
  • Cost: £4 million

Bryn Seiont Newydd yw syniad Mario Kreft a’i wraig Gill. Bu iddynt sefydlu Parc Pendine ychydig dros 30 mlynedd yn ôl pan oeddent yn methu canfod gofal cymdeithasol addas ar gyfer eu neiniau a’u teidiau eu hunain.

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE