Swyddfeydd Newydd yn Noc Fictoria

Rydym wrth ein bodd o fod wedi symud i’n swyddfeydd newydd yn Noc Fictoria, Caernarfon sy’n ein gweddu i’r dim. Mae’n ardal fywiog, fodern, yn enwedig ar ôl yr estyniad diweddaraf i Galeri. Mae’r datblygiadau’n enghraifft wych o adfer gan Gyngor Gwynedd ar ardal oedd wedi’i halogi ac yn ddiffaith ond sydd bellach yn fywiog a llawn defnydd.

Mae hefyd yn hynod braf gallu edrych allan ar adeilad y Goleuad y buom ni’n adfer yn swyddfeydd ac yn gyfleusterau golygu i Cwmni Da, yn ogystal â’r pontynau yn Noc Fictoria. Roedd ein swyddfa yng Nghaernarfon yn gyfrifol am gynllunio a rheoli prosiect Rhan 1 y gwaith o osod y pontynau, a brofodd mor llwyddiannus.

A ninnau’n gadael ein hen swyddfeydd â’u golygfeydd ysblennydd o fachlud haul dros Abermenai, rydym yn falch o fod wedi cefnogi Canolfan yr Aelwyd, menter gymdeithasol oedd yn landlord inni yn Stryd yr Eglwys, Caernarfon. Mae’r cyfleuster a’r swyddfydd o fewn y dref gaerog yn cefnogi’r gymuned leol, ac rydym yn ddiolchgar iawn i dîm yr Aelwyd am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, wrth inni dyfu. Mi fuon-nhw’n hyblyg wrth ein lletya, ac rwy’n gobeithio bod ein presenoldeb yno hefyd wedi helpu’r grŵp. Dymunwn y gorau oll iddynt i gyd ar gyfer y dyfodol.

Mae ein staff i gyd wedi ymgartrefu’n dda iawn yma, ac rydym yn falch o gynnig iddyn-nhw – ac i’n cleientiaid – gyfleusterau swyddfa o ansawdd uchel. Yn y cyfamser, mae pethau dal yn brysur gyda phrosiectau newydd niferus yn Yr Wyddgrug ac yng Nghaernarfon, fel ei gilydd – felly yn ôl ati a ni!

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE