Datrys yn Recriwtio 4 Aelod Staff Newydd

Mae Datrys yn parhau gyda’i nod i dyfu a chryfhau ei dalentau gyda chyrhaeddiad pedwar aelod newydd o staff. Mae Jonathan Allen yn Beiriannydd Sifil Graddedig o Brifysgol Abertawe. Bydd wedi’i leoli yn ein pencadlys yng Nghaernarfon a bydd yn atgyfnerthu’r tîm presennol o beirianwyr.

Ein technegwyr newydd yw Sandra Pousadas a Levente Incze a gwblhaodd eu graddau mewn peirianneg yn yr Instituto Politecnico de Setubal, Portiwgal a Phrifysgol Dechnegol Cluj-Napoca, Romania, yn y drefn honno.

Bydd Sandra’n gweithio o’n swyddfa yn Yr Wyddgrug, tra bydd Levente yng Nghaernarfon.

Yn olaf, bydd merch leol, Gina Davies yn gyfrifol am y dderbynfa yng Nghaernarfon.

“Mae’n bleser gennym groesawu’r aelodau newydd i’n tîm,” dywedodd Paul Williams, y Rheolwr Gyfarwyddwr.

“Maent wedi cyfrannu at adeiladu ysbryd tîm da eisoes, ac rydym yn sicr y bydd eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn helpu Datrys i barhau i ddarparu’r datrysiadau gorau a mwyaf effeithlon ar gyfer ein cleientiaid.”

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE