Datrys yn agor Swyddfa Newydd yn Yr Wyddgrug

Mae Datrys yn falch i gyhoeddi agoriad swyddfa newydd yn Yr Wyddgrug.Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Fusnes St Andrews, bydd y swyddfa newydd yn rhoi presenoldeb ehangach ar draws Gogledd Cymru i gwmni Datrys ac yn galluogi mynediad hawdd yn ôl a blaen i Gaer, Lerpwl, Manceinion a thu hwnt.

Cyfarwyddwr Datrys, Warren Lewis, fydd yn arwain y swyddfa newydd. “Mae’r ehangiad yn dystiolaeth o lwyddiant Datrys yn ystod y 18 mis diwethaf, er gwaethaf yr anawsterau yn yr economi yn gyffredinol.”

“Mae ein hymroddiad cyson i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf wedi’i deilwra i fodloni anghenion ein cleientiaid wedi rhoi sylfaen gadarn i ni fedru symud ymlaen.”

Bydd y swyddfa newydd yn agor ar 1 Mai 2015, y cyfeiriad yw: Datrys, Canolfan Fusnes St Andrews, Parc St Andrews, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1XB Ffôn: 01352 706205

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE