Swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug – Blwyddyn yn Ddiweddarach

Yn ddiweddar, dathlodd swyddfa Datrys yn Yr Wyddgrug flwyddyn ers iddi agor ei drysau, a deuddeg mis yn ddiweddarach mae’r gangen yn ffynnu. Pennaeth y swyddfa yw Warren Lewis, Cyfarwyddwr Datrys, ac yn gweithio gydag ef mae’r Technegydd Peirianneg Graddedig newydd, Sandra Pousadas. Mae staff contract hefyd wedi cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn i gwrdd â’r galw.

“Mae wedi bod yn flwyddyn ddiddorol a chynhyrchiol” meddai Warren. “Rydym wedi bod yn gweithio ar brosiectau yn ffatri Airbus ym Mrychdyn a’r eiddo Electroimpact ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy.”

“Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithasau Tai a Phenseiri yn yr ardal. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r cysylltiadau hyn ac at sefydlu ein henw da ymhellach dros y flwyddyn nesaf.”

Agorodd y swyddfa newydd ym mis Mai’r llynedd, y cyfeiriad yw: Datrys, Canolfan Fusnes St Andrews, Parc St Andrews, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1XB  Ffôn: 01352 706205

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE