Cynllun Hydro Cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru

Mae Datrys wedi’i gomisiynu i ddarparu’r cynllun peirianneg sifil ar gyfer gorsaf gynhyrchu trydan hydro gymunedol leol. Mae Hydro Ogwen yn fenter gydweithredol i harneisio grym Afon Ogwen yng Ngwynedd.

Mae Datrys yn cynllunio Gored Gymeriant a Phwerdy yr orsaf. Mae hwn yn gynllun 100 Kw cwymp isel wedi’i leoli oddeutu 0.4 milltir i’r de o Fethesda ar sianel Afon Ogwen.

Disgwylir Hydro Ogwen gynhyrchu oddeutu 500 MWh yn flynyddol. Mae hyn yn ddigon i gyflenwi oddeutu 100 tŷ a gwrthbwyso mwy na 245 tunnell o allyriadau CO2. Bydd yr ynni hwn yn cael ei fwydo’n uniongyrchol i’r Grid Cenedlaethol.

Wedi’i ddatblygu gyntaf gan Bartneriaeth Ogwen, mae’r cynllun nawr yn berchen gan Ynni Ogwen Cyf, cwmni elw cymunedol ac yn cael ei redeg ganddo.

Codwyd y cyfalaf o £0.5m i ariannu’r orsaf drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Bydd yr elw tafladwy mae’n ei gynhyrchu yn cael ei roi fel rhodd gymorth i elusen, wedi’i bennu gan Ynni Ogwen i’w ddyrannu yn ôl i gymunedau lleol.

Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Datrys: “Rydym yn falch o fod ynghlwm mewn prosiect fydd â manteision gwych i’r ardal leol.”

“Mae’n galondid gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i ariannu a rheoli’r orsaf hon, defnyddio a gwarchod yr amgylchfyd naturiol i’w mantais hwy.”

Gobeithir y bydd Hydro Ogwen yn dechrau cynhyrchu trydan cyn diwedd 2016.

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE