Uned Gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog

Mae’r Uned Gofal Ychwanegol newydd gwerth £7-£8 miliwn ym Mhorthmadog – a ddyluniwyd gan benseiri Ainsley Gommon o Benarlâg, gyda Datrys fel Peirianwyr Sifil a Strwythurol – wedi’i gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio ar ran Grŵp Cynefin.

Gan fod ardal Porthmadog yn adnabyddus am ei chyflwr daear anodd a’r risg o lifogydd, mae Datrys wedi paratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar gyfer y safle ac wedi adnabod y lefel y mae’n rhaid i’r adeilad gael ei godi ati.

Datrys hefyd oedd yn gyfrifol am osod a rheoli’r Archwiliad Safle tyllau turio a ddatgelodd ysgafell ar oleddf o dan y dyddodion aberol.

“Fe wnaethom oruchwylio’r Archwiliad Safle yn agos”, eglurodd y Daearegwr Peirianneg, Niel Williams.

Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu ymateb yn gyflym i’r amodau tir amrywiol wrth i ni eu darganfod

Mae’r atebion arfaethedig sy’n cael eu hystyried ar gyfer dyluniad y sylfaen yn cynnwys defnyddio pentyrrau dwfn neu seiliau ar y strata uchaf mwy dwys. Mae Datrys wedi cyfrifo gwerthoedd setliad posibl i ddylunio effeithiau symudiad gwahaniaethol.

 

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE