Methodoleg

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni?

Pan fyddwch yn cysylltu â Datrys, byddwn yn adolygu eich gofynion ac yn paratoi dadansoddiad manwl o’r briff rydych wedi ei roi i ni.

Rydym yn llunio cynnig sy’n amlinellu’r ffyrdd a’r dulliau i ddatblygu eich prosiect, gan restru’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig ynghyd ag unrhyw gyngor a chanllawiau sydd eu hangen i symud ymlaen. Bydd y cynnig yn cynnwys amcangyfrif o’r ffi ac amserlen o’n cyfraddau. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cael ei defnyddio fel rheolaeth i reoli’r comisiwn ac i sicrhau bod y briff yn cael ei ddiwallu’n llawn.

Unwaith y byddwch yn derbyn ein cynnig, bydd Cyfarwyddwr Prosiect a Rheolwr Prosiect mewnol yn cael eu penodi.

Bydd y Rheolwr Prosiect yn ymdrin yn bersonol gyda chi. Ei gyfrifoldeb ef / chyfrifoldeb hi yw sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn effeithiol drwy wirio ein bod yn cwrdd â’ch anghenion yn llawn yn ystod cyflawni’r gwaith. Mae’r Rheolwr Prosiect ar gael i roi cyngor a chyfarwyddyd i chi trwy gydol y prosiect.

Cyfarwyddwr y Prosiect sy’n goruchwylio ac yn adolygu’r gwaith. Ef / hi sy’n cadarnhau bod popeth yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sicrhau ansawdd achrededig y cwmni.

Ar ddechrau eich prosiect, mae rhaglen waith manwl yn cael ei llunio. Ar y pwynt hwn, mae gofynion a thargedau staff yn cael eu cyfateb i’r rhaglen.

Mae adolygiad cysyniadol hefyd yn cael ei wneud ar ddechrau astudiaeth neu brosiect dylunio, pan fydd y fethodoleg neu’r cysyniadau dylunio yn cael eu sefydlu.

Bydd adolygiadau pellach yn cael eu gwneud ar ddyddiadau allweddol ym nghyfnod eich prosiect er mwyn sicrhau yn gyson bod yr allbwn yn diwallu eich gofynion. Mae’r adolygiadau hyn hefyd yn ein galluogi i fonitro cynnydd ac adnoddau.

Mae Datrys yn defnyddio gweithdrefnau rheoli costau effeithiol, gan gynhyrchu adroddiadau cynnydd a chostau misol drwy ein system cyfrifon mewnol.

 

DATRYS

Caernarfon: 01286 671027

Yr Wyddgrug: 01352 706205

Ebost: info@datrys.coop

rss

BSI
Institution of Civil Engineers (ICE) Approved Employer
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi ICE